Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 5 Mehefin 2013
Cynigion a gyflwynwyd ar 29 Mai 2013
Dadl Fer
NDM5255 Russell George (Sir Drefaldwyn): A yw'r ateb wir yn chwythu yn y gwynt? Y cymysgedd o ynni adnewyddadwy a'r galw cynyddol am ynni dwr.
Dadl sy'n cwestiynu a oes gan Lywodraeth Cymru y strategaeth ynni adnewyddadwy gywir o ran rhoi gormod o bwyslais ar gynhyrchu ynni drwy wynt ar y tir.
NDM5256 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn credu bod angen i gymunedau Cymru gael gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys a mamolaeth wedi'u harwain gan ymgynghorwyr mewn ysbytai cyffredinol dosbarth lleol.
NDM5257 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu'r cyfle a roddir gan Ddiwrnod y Lluoedd Arfog i ddiolch i bawb sydd wedi gwasanaethu yn ein lluoedd a'r cymorth a roddwyd iddynt gan bobl Cymru.
2. Yn cydnabod cyfraniad gweithwyr nad ydynt yn rhai milwrol i ymdrechion rhyfel olynol.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynorthwyo gwasanaethau sydd wedi'u cyfeirio at gyn-filwyr ac ystyried cyflwyno Cynllun Cerdyn y Lluoedd Arfog, i gyn-filwyr a'r rhai sy'n gwasanaethu yn y lluoedd arfog, i gyd-fynd â digwyddiadau sy'n coffáu canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Chomisiwn y Cynulliad i ddatblygu a chyhoeddi rhaglen genedlaethol o ddigwyddiadau coffaol.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried gweithio gyda’r lluoedd arfog a phartneriaid eraill i sefydlu Amgueddfa Filwrol Genedlaethol i Gymru i goffáu'r dreftadaeth gyfoethog o aberth, dewrder a gwasanaeth personél milwrol a sifiliaid o Gymru, a phawb sydd wedi gwasanaethu eu gwlad ar adegau o wrthdaro arfog.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 30 Mai 2013
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM5257
1. Elin Jones (Ceredigion)
Ym mhwynt 3, dileu popeth ar ôl ‘gwasanaethau sydd wedi’u cyfeirio at gyn-filwyr’.
2. Elin Jones (Ceredigion)
Cynnwys ar ddiwedd pwynt 4:
‘ac i gydweithio â phartïon cyfrannog i lunio pabi coch Cymreig i goffáu yn benodol y nifer fawr o filwyr o Gymru a fu farw rhwng 1914 a 1918’
3. Elin Jones (Ceredigion)
Dileu pwynt 5.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 31 Mai 2013
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM5256
1. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Rhoi pwynt newydd ar ddechrau’r cynnig:
Yn gresynu bod y toriadau cyllidebol y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu gwneud i gyllid y GIG, sef y toriadau dwysaf o blith gwledydd y DU, yn cael effaith niweidiol ar allu GIG Cymru i barhau i ddarparu cyfluniad presennol gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys a mamolaeth wedi’u harwain gan ymgynghorwyr yn ysbytai Cymru.
2. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gwrthod y cynigion sy’n cael eu hystyried ar hyn o bryd gan Raglen De Cymru i israddio gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys a mamolaeth wedi’u harwain gan ymgynghorwyr yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant.
3. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gyflawni ei ymrwymiad i gadw’r gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys presennol yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan.
4. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Weinidog Iechyd Cymru i sicrhau dyfodol y gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys presennol yn Ysbyty'r Tywysog Philip yn Llanelli.
5. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod y bydd ysbytai cyffredinol dosbarth lleol yn darparu gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys a mamolaeth sy’n gynaliadwy ac yn glinigol gadarn os bydd lefelau recriwtio meddygon yn gwella, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi canlyniadau ei Hymgyrch Recriwtio Meddygon, a lansiwyd ym mis Ebrill 2012.
6. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod y bydd ysbytai cyffredinol dosbarth lleol yn darparu gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys a mamolaeth sy’n gynaliadwy ac yn glinigol gadarn os bydd lefelau staffio nyrsys yn gwella, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth i hwyluso lefel sylfaenol.
NDM5257
1. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar y cyd i wella’r driniaeth ar gyfer Anhwylder Straen Wedi Trawma ymhlith cyn-aelodau’r Lluoedd Arfog drwy ystyried y potensial i sefydlu Canolfan Driniaeth ar gyfer Anhwylder Straen Wedi Trawma yng Nghymru.
2. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi Adroddiad Murrison sydd wedi arwain at gyllid ychwanegol ar gyfer aelodau prosthetig i gyn-aelodau’r Lluoedd Arfog yn Lloegr, yn nodi hefyd y gweithgor sydd wedi’i sefydlu ar y pwnc yng Nghymru, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y ddarpariaeth yn gydradd yng Nghymru.
Gellir gweld Adroddiad Murrison drwy ddilyn y linc a ganlyn:
https://www.gov.uk/government/publications/a-better-deal-for-military-amputees
3. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ym mhwynt 5 dileu ‘sefydlu Amgueddfa Filwrol Genedlaethol i Gymru i’ a rhoi yn ei le ‘ystyried y ffyrdd mwyaf priodol o’