Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 5 Rhagfyr 2007
Cynigion a Gyflwynwyd ar 28 Tachwedd 2007
Dadl Fer
NDM3826
Karen Sinclair (De Clwyd): Pwysigrwydd Gwasanaethau Trawsffiniol i Gymru
NDM3827
William Graham (Dwyrain De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cydnabod cyfraniad pwysig seilwaith trafnidiaeth modern i ddatblygu economi ffyniannus ac i fynd i’r afael ag allgáu cymdeithasol.
NDM3828
William Graham (Dwyrain De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cynlluniad Cymru i gyflwyno amserlen ar gyfer cau’r bwlch mewn cyllid addysg a geir rhwng Cymru a Lloegr.
NDM3829
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn credu y bydd penderfyniad y Swyddfa Gartref i orffen cyllido’r gwasanaeth 101 yn ardal Caerdydd a De Cymru yn cynyddu’r pwysau ariannol ar gynghorau lleol.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 29 Tachwedd 2007
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM3829
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i weithio gydag awdurdodau’r heddlu ac awdurdodau lleol i roi’r gwasanaeth 101 ar waith fesul cam ledled Cymru.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 30 Tachwedd 2007
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM3827
1. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod bod seilwaith trafnidiaeth, ar sail egwyddor defnyddio llai ar ffyrdd ac, yn lle hynny, defnyddio mwy ar drafnidiaeth gyhoeddus a chludo nwyddau ar reilffyrdd yn rhan hanfodol o adeiladu economi sy’n amgylcheddol gynaliadwy.
2. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod bod gwella cyfleusterau cerdded a seiclo’n darparu potensial enfawr o ran mynd i’r afael ag allgáu cymdeithasol a chreu Cymru sy'n iachach ac yn fwy diogel.
3. Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Gosod y geiriau “a chynaliadwy” ar ol y gair “modern”
NDM3828
1. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod y “niwl cyllido” parhaus sy’n amgylchynu addysg yng Nghymru.
2. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu nad oes cynnydd o ran gweithredu argymhellion adroddiad y Pwyllgor ar Ariannu Ysgolion a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2006.
3. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth y Cynulliad i gydnabod amcangyfrif Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru o’r bwlch cyllido cyfredol rhwng Cymru a Lloegr.
NDM3829
1. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:
Yn cydnabod y cymorth gwerthfawr a roddwyd i’r cyhoedd gan y gwasanaeth 101.
2. Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Dileer popeth ar ol yr trydydd “yn” a ailosod:
gallu roi mwy o bwysau ariannol ar gynghorau lleol ond mae'n nodi nad yw'r penderfyniad hwn yn un o'r cyfrifoldebau sydd wedi eu datganoli i Lywodraeth Cynulliad Cymru.