06/02/2008 - Cynigion â Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014



Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 6 Chwefror 2008

Cynigion a Gyflwynwyd ar 30 Ionawr 2008

NDM3857

Christine Chapman (Cwm Cynon): "Y proffesiwn hynaf yn y byd” - amser i ailfeddwl?

NDM3858

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi â phryder y nifer isel sy’n pleidleisio yn etholiadau’r Cynulliad ac etholiadau awdurdodau lleol yng Nghymru - yn enwedig ymhlith pobl ifanc.

NDM3859

William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1) Yn nodi â phryder bod 252 o dargedau wedi cael eu gosod ar gyfer GIG Cymru dros y chwe blynedd diwethaf.

2) Yn cydnabod bod diwylliant sy’n cael ei arwain gan dargedau yn y GIG yn gallu amharu ar ofal priodol ac amserol i gleifion.

3) Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i symud i ffwrdd o geisio datrys problemau yn y GIG yng Nghymru drwy osod targedau.

Cynigion a Gyflwynwyd ar 14 Rhagfyr 2007

NDM3617

Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 23.103:

Yn caniatáu i Dai Lloyd gyflwyno Mesur Arfaethedig Aelod er mwyn rhoi ei heffaith i'r wybodaeth cyn y balot a gyflwynwyd ar 6 Rhagfyr 2007 o dan Reol Sefydlog 23.102.

I weld y wybodaeth cyn y balot, defnyddiwch y linc isod:

h

ttp://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-legislation/bus-leg-measures/business-legislative-ballots/business-measures-ballot-26-06-07/business-measures-mb-19.htm Gwelliannau a gyflwynwyd ar 1 Chwefror 2008

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM3858

1. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)

Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:

Yn credu y dylid caniatáu i bobl ifanc 16 oed bleidleisio er mwyn ymgysylltu pobl ifanc yn y broses ddemocrataidd.

2. Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Dileu popeth a rhoi yn ei le

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru

"Yn croesawu gweledigaeth ‘Cymru’n Un’ o roi’r gallu i ddinasyddion o bob oedran lywio’r cymunedau y maent yn byw ynddynt a’r ymrwymiad i bwyso a mesur a gweithredu dulliau newydd o ennyn diddordeb dinasyddion drwy ddulliau cyfranogol ac ymarferol, gan gynnwys annog rhagor o bobl i gymryd rhan mewn etholiadau yng Nghymru.”

NDM3859

1. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)

Dileu pwynt 3 a rhoi pwynt newydd yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i symud tuag at nifer lai o dargedau GIG ar sail barn glinigol.

2. Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Dileu popeth a rhoi yn ei le

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod cyfraniad targedau priodol o safbwynt gwella perfformiad a gwella gwasanaethau ar gyfer cleifion o fewn y GIG yng Nghymru.

1. Yn cymeradwyo camau gweithredu Llywodraeth y Cynulliad o ran lleihau crynswth y targedau er mwyn canolbwyntio’n fwy penodol ar fwriadau a chanlyniadau polisi allweddol.