Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 6 Chwefror 2013
Cynigion a gyflwynwyd ar 5 Rhagfyr 2012
NDM5121 Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.91:
Yn cytuno y caiff Mark Isherwood gyflwyno Bil er mwyn gweithredu'r wybodaeth cyn y balot a gyflwynwyd ar 14 Hydref 2011 o dan Reol Sefydlog 26.90.
Mae’r wybodaeth cyn y balot ar gael drwy fynd i:
http://www.assemblywales.org/cy/bus-home/bus-legislation/bill_ballots/bill_021.htm
Cynigion a gyflwynwyd ar 10 Ionawr 2013
NDM5137
Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Byron Davies (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod cerddwyr a anafwyd wedi cynrychioli 21 y cant o'r rheini a laddwyd ac a anafwyd yn ddifrifol ar y ffyrdd yng Nghymru yn 2011;
2. Yn cydnabod y manteision a brofwyd o gael terfynau cyflymder o 20mya o ran lleihau nifer y rhai sy'n cael eu lladd a'u hanafu'n ddifrifol; ac
3. Yn galw ar awdurdodau lleol i gynyddu nifer y parthau 20mya yng Nghymru
Cefnogwyd gan:
Christine Chapman
Mike Hedges
Cynigion a gyflwynwyd ar 16 Ionawr 2013
Dadl Fer
NDM5145 Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Arbennig, Unigryw ac mewn Argyfwng
Y bygythiadau i ddiwydiant Cig Oen Cymru a’r angen i weithredu.
Cynigion a gyflwynwyd ar 30 Ionawr 2013
NDM5161 William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Ddeiseb P-04-341: Llosgi Gwastraff, a osodwyd gerbron y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Rhagfyr 2012
Yn nodi: Bod ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad wedi’i osod ar 30 Ionawr 2013.
Dadl fer
NDM5160 Nick Ramsay (Mynwy): Cyfrifiadura Perfformiad Uchel – Pweru arloesedd er lles economi Cymru
Pwysigrwydd a photensial uwch-gyfrifiaduron o Gymru o ran datblygu economi Cymru.