06/07/2010 - Cynigion â Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 06 Gorffennaf 2010

Cynigion a gyflwynwyd ar 29 Mehefin 2010

NDM4506 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi'r ymgynghoriad ar y strategaeth fwyd ar gyfer Cymru - "Bwyd i Gymru, Bwyd o Gymru".

Cafodd gopiau o’r ddogfen ymgynghori a’r strategaeth ei  e-bostio at Aelodau'r Cynulliad ar 29 Mehefin 2010.

NDM4507 Jane Davidson (Pontypridd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 23.24:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Y Mesur Arfaethedig ynghylch Gwastraff (Cymru)

gosodwyd Y Mesur Arfaethedig ynghylch Gwastraff (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 22 Chwefror 2010;

gosodwyd adroddiad Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 4 ar y Mesur Arfaethedig ynghylch Gwastraff (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 25 Mehefin 2010.

NDM4508 Jane Davidson (Pontypridd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Mesur Arfaethedig ynghylch Gwastraff (Cymru):

(a) yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 23.80(ii)(b); a

(b) yn cytuno i unrhyw ffi, cynnydd neu daliad o'r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 23.81;

sy’n codi o ganlyniad I’r Mesur.

NDM4509 Dafydd Elis Thomas (Dwyfor Meirionnydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.3, yn ethol Peter Black (Democratiaid Rhyddfrydol) yn aelod o’r Pwyllgor Cyllid yn lle Kirsty Williams (Democratiaid Rhyddfrydol).

NDM4510 Dafydd Elis Thomas (Dwyfor Meirionnydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.3, yn ethol Peter Black (Democratiaid Rhyddfrydol) yn aelod o Bwyllgor Deddfwriaeth Rhif 4 yn lle Kirsty Williams (Democratiaid Rhyddfrydol).

NDM4511 Dafydd Elis Thomas (Dwyfor Meirionnydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.3, yn ethol Peter Black (Democratiaid Rhyddfrydol) yn aelod o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn lle Jenny Randerson (Democratiaid Rhyddfrydol).

NDM4512 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn croesawu'r ymgysylltu agored a thryloyw gan Llywodraweth Cynulliad Cymru â nifer o randdeiliaid ynghylch ei ffordd o fynd ati i weithio ar ddatblygu economaidd yn awr ac yn y dyfodol;

2. Yn credu mewn gweledigaeth ynghylch economi Cymru sy'n ei gwneud yn lle da i fyw a gweithio ynddo, yn hyderus, yn greadigol ac yn uchelgeisiol ac yn seiliedig ar gryfderau a sgiliau ei phobl;

3. Yn credu y dylai Llywodraeth y Cynulliad fynd ati'n weithredol i:

(a) Buddsoddi mewn seilwaith cynaliadwy o safon uchel, gan gynnwys band eang a theleffoni symudol;

(b) Gwneud Cymru yn lle mwy deniadol i wneud busnes;

(c) Ehangu a dyfnhau'r sylfaen sgiliau;

(d) Annog arloesi a masnacheiddio drwy ymchwil a datblygu;

(e) Targedu'r cymorth busnes sydd ar gael.

4. Yn galw ar Lywodraeth y Cynulliad i fynd ati i weithio ar lefel Llywodraeth gyfan ar ddatblygu economaidd sy'n adeiladu ar y partneriaethau a luniwyd drwy'r Uwchgynadleddau Economaidd Cymru Gyfan.

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 01 Gorffennaf 2010

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM4506

Nick Ramsay (Mynwy)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod y manteision i’r diwydiant bwyd yng Nghymru yn sgil ymrwymiadau Llywodraeth y DU i labelu bwyd yn onest ac i sefydlu ombwdsmon archfarchnadoedd.

NDM4512

1. Nick Ramsay (Mynwy)

Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn nodi’r angen parhaus i ymgysylltu â’r sector busnes a rhanddeiliaid allweddol eraill i roi strategaeth datblygu economaidd effeithiol ar waith.

2. Nick Ramsay (Mynwy)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i gryfhau swyddogaeth y Cyngor Partneriaeth Busnes o ran datblygu, monitro a gwerthuso polisïau economaidd.  

3. Nick Ramsay (Mynwy)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y dylai economi Cymru fanteisio fwy ar gyfleoedd byd-eang yn enwedig o ran allforio, buddsoddiad uniongyrchol o dramor, a chysylltu.  

4. Nick Ramsay (Mynwy)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru wneud defnydd llawn o gyfleoedd cyllido Ewropeaidd er mwyn helpu i dyfu’r sector preifat yng Nghymru ac i gryfhau perfformiad economaidd Cymru.   

5. Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cymryd tair blynedd i ddatblygu ei strategaeth economaidd.

6. Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Cynnwys is-bwynt (a) newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn:

Datblygu rôl ganolog mewn llunio polisi, ond bod gwasanaethau'n cael eu cyflenwi drwy gyrff lled braich.

7. Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:

Datblygu Cyfnewidfa Stoc Cymru, er mwyn sicrhau bod gan fusnes fynediad at fathau newydd o gyfalaf heb orfod talu costau rhestru Llundain.

8. Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod gwahaniaethau eang mewn cystadleurwydd economaidd rhwng rhanbarthau Cymru ac yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau swyddogaeth gref i awdurdodau lleol ym maes datblygu economaidd ac y rhoddir cyfrif am amrywiadau lleol wrth lunio polisïau.