Cynigion a Gwelliannau i’w trafod yn y Dyfodol
Cynnig heb Ddyddiad Trafod a gyflwynwyd ar 6 Gorffenaf 2011
NNDM4785 Huw Lewis (Merthyr Tydfil and Rhymney)
Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau pellach hynny y daethpwyd â hwy gerbron yn y Bil Lleoliaeth sy’n ymwneud â Chynlluniau Adneuon Tenantiaeth a thrwyddedu tai amlfeddiannaeth, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn ychwanegol at y darpariaethau y cyfeirir atynt yng nghynigion NNDM4642 a NNDM4722.
Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Gorffennaf 2011 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
I weld copi o’r
Mesur Seneddol Lleoliaeth i: