Cynigion a gwelliannau i'w trafod ar 6 Hydref 2015
Cynigion a gyflwynwyd ar 29 Medi 2015
NDM5833 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Trawsblannu Dynol (Deunydd Perthnasol a Eithrir) (Cymru) 2015 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Medi 2015.
NDM5834 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Trawsblannu Dynol (Cynrychiolwyr Penodedig) (Cymru) 2015 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Medi 2015.
NDM5835 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Trawsblannu Dynol (Personau nad yw'r Galluedd ganddynt i Gydsynio) (Cymru) 2015 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Medi 2015.
NDM5836 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o God Ymarfer yr Awdurdod Meinweoedd Dynol 2015 ar Ddeddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Medi 2015.