Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 6 Tachwedd 2012
Cynigion a gyflwynwyd ar 10 Gorffennaf 2012
NDM5039 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau'r Bil Bathodynnau Parcio Personau Anabl, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Gorffennaf 2012 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).
I weld copi o’r Bil ewch i:
Bill documents — Disabled Persons' Parking Badges Bill 2012-13 — UK Parliament
NDM5040 Edwina Hart (Gwyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau'r Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio sy’n ymwneud â’r Banc Buddsoddi Gwyrdd (y”BBG”), i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Gorffennaf 2012 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).
I weld copi o’r Bil ewch i:
Bill documents — Enterprise and Regulatory Reform Bill 2012-13 — UK Parliament
Cynigion a gyflwynwyd ar 30 Hydref 2012
NDM5080 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:
Yn nodi’r ymgynghoriad ar y polisi adfywio yn y dyfodol a gynhwysir yn 'Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid – Fframwaith Adfywio Newydd’.
Mae’r ymgynghoriad ar gael drwy fynd i’r ddolen ganlynol:
http://wales.gov.uk/consultations/businessandeconomy/vvp/?lang=cy
NDM5081 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru ‘Sicrhau agenda gydraddoldeb a hawliau dynol gref – adolygiad Cymru 2011-12’.
Mae copi o’r adroddiad ar gael yn:
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 1 Tachwedd 2012
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM5080
1. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu nad yw’r polisi adfywio yn y dyfodol yn cyfeirio’n ystyrlon at Orllewin Cymru o gwbl.
2. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi'r ymchwiliad parhaus gan Swyddfa Archwilio Cymru i drefniadau llywodraethu Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio, ac i effeithiolrwydd trefniadau goruchwylio Llywodraeth Cymru.
3. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu nad yw Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio wedi gwneud unrhyw fuddsoddiad yn y sector preifat yng Nghymru.
4. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu nad yw’r ymgynghoriad ar y fframwaith adfywio newydd yn cynnig unrhyw dargedau y mae modd eu mesur.
5. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y polisi adfywio yn y dyfodol yn mynd i'r afael â'r diffyg cysylltiad rhwng ardaloedd menter Llywodraeth Cymru a’i seilwaith trafnidiaeth.
6. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu rhagor o wybodaeth am gynigion penodol ar gyfer adfywio’r stryd fawr, gan gynnwys rhagor o fanylion am rôl bosibl ‘timau trefi’.
NDM5081
1. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adeiladu ar lwyddiant y Gemau Paralympaidd er mwyn hybu agwedd gadarnhaol at anabledd, a mynd i'r afael â gwahaniaethu a throseddau casineb anabledd.
2. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi nad yw un o bob wyth unigolyn ifanc rhwng 16 a 18 oed yng Nghymru mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno mesurau i fynd i’r afael â'r broblem hon.
3. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod y disgwyliad oes yng Nghymru yn is ar gyfartaledd nag yn Lloegr, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno mesurau i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru a rhwng Cymru a gweddill y DU.