06/12/2011 - Cynigion â Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/06/2014

Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 6 Rhagfyr 2011

Cynigion a gyflwynwyd ar 29 Tachwedd 2011

NDM4866 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Mesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 2010 (Diwygio) 2011 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar  8 Tachwedd 2011.

NDM4867 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Rheoliadau Iechyd Meddwl (Cydgysylltu Gofal a Chynllunio Gofal a Thriniaeth) (Cymru) 2011 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar  8 Tachwedd 2011.

NDM4868 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2011 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar  15 Tachwedd 2011.

NDM4869 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Caniatâd Cynllunio (Tynnu'n ôl Orchymyn Datblygu neu Orchymyn Datblygu Lleol) (Iawndal) (Cymru) 2012 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar  15 Tachwedd 2011.

NDM4870 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.25:

Yn cymeradwyo’r Gyllideb Flynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2012-13, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty ar 29 Tachwedd 2011.

Troednodyn:

Yn unol â’r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20.28, dyma’r wybodaeth sydd yn y Gyllideb Derfynol:

1. y datganiad ysgrifenedig sy’n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;

2. yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru am y flwyddyn ariannol y mae’r cynnig yn ymdrin â hi;

3. cysoniad rhwng yr adnoddau a neilltuwyd i gyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a’r adnoddau sydd i’w hawdurdodi i’w defnyddio yn y cynnig;

4. cysoniad rhwng amcangyfrifon o’r symiau sydd i’w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a’r symiau sydd i’w hawdurdodi i’w talu o’r Gronfa yn y cynnig; a

5. cysoniad rhwng yr adnoddau sydd i’w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o’r Ddeddf a’r symiau sydd i’w hawdurdodi i’w talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c).

Cyhoeddwyd yr wybodaeth ychwanegol hon hefyd ar gyfer yr Aelodau:

Nodyn esboniadol ynglyn â’r newidiadau rhwng cynigion y Gyllideb Ddrafft a’r Gyllideb Derfynol.

NDM4871 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn ystyried Cynllun Gweithredu Cymru ar Reoli Tybaco;

2. Yn nodi amcanion y cunllun sef:

a) lleihau'r niwed i iechyd y cyhoedd a achosir gan smygu yng Nghymru, yn arbennig amddiffyn plant rhag effeithiau niweidiol tybaco; a

b) lleihau amlder smygu yn ein cymunedau mwyaf amddifad gan fod smygu yn un o brif achosion y bwlch mewn disgwyliad oes rhwng pobl gyfoethog a phobl dlawd; ac

3. Yn  nodi y bydd Llywodraeth Cymru'n ystyried cyflwyno deddfwriaeth, os dengys tystiolaeth fod yr ymgyrch i ostwng smygu mewn ceir sy'n cario pobl ifanc dan oed yn methu â sicrhau gostyngiad sylweddol yn y graddau y mae pobl yn dod i gysylltiad â mwy ail-law.

Cafodd Cynllun Gweithredu Cymru ar Reoli Tybaco ei anfon drwy'r e-bost at yr Aelodau ar 29 Tachwedd 2011.

NDM4872 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gresynu wrth y nifer uwch o farwolaethau yn y gaeaf oherwydd y cynnydd yn nifer y bobl sy’n dioddef o dlodi tanwydd.

2. Yn annog Llywodraeth Cymru i ddefnyddio’r holl bwerau sydd ganddi y gaeaf hwn i leihau nifer y marwolaethau yn y gaeaf.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu ei strategaeth tlodi tanwydd yn sgil cynnydd diweddar mewn prisiau tanwydd, gan ganolbwyntio ar:

a. Ôl-ffitio stoc tai Cymru; a

b. Mynd i’r afael â diffyg sicrwydd mewn perthynas ag ynni drwy fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy, a buddsoddi mewn datblygu ‘sgiliau gwyrdd’ y sector adeiladu yng Nghymru, fel y cofnodwyd mewn papur diweddar ‘Skills for Eco-Refurbishment’.

Gellir gweld Strategaeth Tlodi Tanwydd Llywodraeth Cymru drwy ddilyn y linc a ganlyn:

http://wales.gov.uk/docs/desh/publications/100723fuelpovertystrategycy.pdf

Gellir gweld y papur ‘Skills for Eco-Refurbishment’ drwy ddilyn y linc a ganlyn:

http://calvjones.com/pages/greenskills-74987

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 1 Rhagfyr 2011

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM4871

1. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ym mhwynt 3, dileu ‘Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru'n ystyried cyflwyno deddfwriaeth’ a rhoi yn ei le ‘Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth yn y tymor Cynulliad hwn’.

2. Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru ganolbwyntio ar gynyddu’r niferoedd sy’n manteisio ar gynlluniau rhoi’r gorau i ysmygu er mwyn lleihau’r niwed i iechyd y cyhoedd a achosir gan ysmygu.

NDM4872

1. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:

yr hyn sy’n achosi mwy o dlodi tanwydd ymysg cartrefi gwledig;

2. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:

cartrefi sy’n dlawd iawn o ran tanwydd nad ydynt yn gymwys ar gyfer Gwelliannau i’r Cartref o dan gynllun "Nyth” Llywodraeth Cymru;

Gellir gweld y Cynllun Nyth drwy ddilyn y linc a ganlyn:

http://nestwales.org.uk/

3. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgorffori cynllun gweithredu’r Siarter Tlodi Tanwydd yn ei Strategaeth Tlodi Tanwydd.

Gellir gweld y Siarter Tlodi Tanwydd drwy ddilyn y linc a ganlyn:

http://www.fuelpovertycharterwales.org.uk/assets/uploads/2009/10/Welsh-Fuel-Poverty-Charter-Welsh-V6.pdf

4. Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod llai o bobl wedi manteisio ar y brechlynnau ffliw tymhorol ymysg y grwpiau ‘mewn perygl’ o dan 65 oed, ac felly’n galw ar Lywodraeth Cymru i roi mesurau ar waith i gynyddu’r niferoedd sy’n cael y brechlyn ffliw tymhorol er mwyn atal un o brif achosion marwolaethau diangen dros y gaeaf.