06/12/2016 - Cynigion â Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 29/11/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

​Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 6 Rhagfyr 2016

Cynig a gyflwynwyd ar 29 Tachwedd 2016 a gyflwynwyd ar 29 Tachwedd 2016 a gyflwynwyd ar 29 Tachwedd 2016

 
NDM6179 Jane Hutt (Bro Morgannwg):
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.12:
Yn nodi'r Gyllideb Ddrafft ar gyfer y flwyddyn ariannol 2017-2018 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar 18 Hydref 2016.

'Cynigion Cyllideb Ddrafft 2017-18'
 
NDM6180 Jane Hutt (Bro Morgannwg):

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o'r Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Cofrestru Gweithwyr Ieuenctid, Gweithwyr Cymorth Ieuenctid ac Ymarferwyr Dysgu Seiliedig ar Waith) 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Tachwedd 2016.

 

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 1 Rhagfyr 2016

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:

NDM6179
 
1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu pob dim a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn credu nad yw Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18 yn diwallu anghenion pobl Cymru.