Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod yn y Dyfodol
Cynigion a gyflwynwyd ar 07 Chwefror 2011
NNDM4660 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.4, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau hynny sy’n ymwneud ag Adran 409 o Ddeddf Addysg 1996, Taliadau a Ganiateir, y Panel Apêl Annibynnol, Ysgolion Byrddio a Cholegau a’r Asiantaeth Dysgu ar gyfer Pobl Ifanc a geir yn y Mesur Seneddol ar Addysg, fel y’i cyflwynwyd i Dy’r Cyffredin ar 26 Ionawr 2011, i’r graddau y mae’r darpariaethau’n dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Chwefror 2011 yn unol â Rheol Sefydlog 26.2(i).
I weld copi o’r
Mesur Addysg
ewch i:
http://services.parliament.uk/bills/2010-11/education.html