Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod yn y Dyfodol
Cynigion a gyflwynwyd ar 7 Chwefror 2014
NNDM5432 Alun Davies (Blaenau Gwent)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cytuno, yn unol ag adran 9(6) o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011, a Rheol Sefydlog 30A.10, bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud Gorchymyn Cyrff Cyhoeddus (Diddymu’r Pwyllgor ar Brisio Amaethyddol) 2014 yn unol â’r drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Chwefror 2014.
Gosodwyd y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Chwefror 2014.