07/05/2013 - Cynigion a Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/06/2014

Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 7 Mai 2013

Cynigion a gyflwynwyd ar 29 Ebrill 2013

NDM5229 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi’r Agenda Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru.

NDM5230 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod Adolygiad yr Athro Siobhan McClelland o Wasanaethau Ambiwlans Cymru wedi’i gyhoeddi;

2. Yn nodi’r 12 argymhelliad a gynigir gan yr Athro McClelland;

3. Yn cydnabod bod angen:

a) cytuno ar weledigaeth glinigol ar gyfer Gwasanaethau Ambiwlans Cymru;

b) rhoi amser i unrhyw fodel ar gyfer cyflenwi gwasanaethau ambiwlans yn y dyfodol aeddfedu.

Gellir gweld Adolygiad yr Athro McClelland o Wasanaethau Ambiwlans Cymru drwy’r ddolen ganlynol: http://wales.gov.uk/topics/health/publications/health/reports/review/?skip=1&lang=cy

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 1 Mai 2013

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM5229

1. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn disgwyl i Lywodraeth Cymru fod yn agored ac yn atebol am ddiwygio'r gwasanaeth sifil a’i berfformiad o ran datblygu a chyflenwi gwasanaethau cyhoeddus.

2. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod pwysigrwydd cydweithio effeithiol rhwng y sector annibynnol, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector o ran cynllunio a chyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

3. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi pwysigrwydd gwybodaeth leol a chynnwys y gymuned o ran datblygu gwasanaethau cyhoeddus effeithlon a phriodol.

4. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau ei bod yn monitro cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn effeithiol ac yn darparu'r canllawiau priodol ac amserol i'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector.

5. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddechrau'r cynnig:

Yn credu bod ymgysylltu â'r cyhoedd yn rhan hanfodol o ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cyfres o safonau cenedlaethol ar arfer gorau o ran ymgysylltu rhwng cymunedau a chyrff cyhoeddus.

6. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddechrau'r cynnig:

Yn credu bod yn rhaid i unrhyw ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus hwyluso’r broses bontio rhwng gofal iechyd a gofal cymdeithasol ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar sut y gallwn integreiddio'r gwasanaethau hynny yn well o fewn strwythur cyflenwi democrataidd ac atebol.

NDM5230

1. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod bod y methiannau systematig o ran gofal heb ei drefnu yn cael effaith sylweddol ar berfformiad Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ac felly'n effeithio'n andwyol ar ganlyniadau i gleifion.

2. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Dileu is-bwynt 3b) a rhoi'r canlynol yn ei le:

‘b) cyhoeddi amserlen glir ar gyfer sicrhau gwelliannau i Wasanaethau Ambiwlans Cymru.’

3. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi ym mis Mawrth 2013 mai 53% yn unig o alwadau Categori A a gafodd ymateb o fewn wyth munud, y ffigur isaf ers mis Rhagfyr 2010 ac nad yw targed Llywodraeth Cymru o 65% ar gyfer galwadau Categori A wedi'i gyrraedd am ddeg mis yn olynol.

4. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi y cafwyd o leiaf 13 o adolygiadau neu archwiliadau i'r gwasanaethau a gyflenwir gan Wasanaethau Ambiwlans Cymru ers 2006 ac yn gresynu nad yw canlyniad yr adolygiadau hyn wedi'u gweithredu'n llawn.

5. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau cyflym i fynd i'r afael â'r materion a godwyd yn yr adolygiad a sicrhau bod unrhyw fodel o'r gwasanaethau ambiwlans yn y dyfodol yn cael ei strwythuro er budd cleifion a staff.

6. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn cael cyllid priodol i sicrhau gwasanaethau ambiwlans effeithlon a chadarn.

7. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn nodi â phryder:

a) er gwaethaf cynnal naw adolygiad mewn chwe blynedd, Cymru sydd â'r amseroedd ymateb isaf yn y DU o hyd;

b) nid yw'r targed o wyth munud ar gyfer Cymru gyfan wedi'i gyrraedd am y deg mis diwethaf;

c) mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod ambiwlansys Cymru, ym mhob ardal awdurdod lleol, wedi methu cyrraedd targedau amseroedd ymateb cenedlaethol ar gyfer galwadau lle y mae bywyd yn y fantol;

d) nid yw'r targed o 95% ar gyfer derbyn, trosglwyddo neu rhyddhau cleifion newydd mewn cyfleusterau gofal brys o fewn pedair awr iddynt gyrraedd erioed wedi'i gyflawni;

e) mae ambiwlansys wedi treulio bron 55,000 awr yn aros y tu allan i ysbytai Cymru yn y chwe mis diwethaf;

f) mae adroddiad perfformiad diweddaraf Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn dangos iddi gyflawni 56.9% yn unig o ran trosglwyddo cleifion o fewn 15 munud, yn erbyn y targed cenedlaethol o 95%.

8. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu fel is-pwynt 3b) newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

sefydlu amserlen glir ar gyfer cytuno ar fodel newydd o gyflenwi gwasanaethau ambiwlans a'i weithredu;

9. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu targedau ychwanegol sy'n canolbwyntio fwy ar brofiad y cleifion a'r canlyniadau iddynt a chyhoeddi adroddiad perfformiad Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn cynnwys cerdyn sgorio perfformiad allweddol misol y weithrediaeth.