Cynigion i'w trafod yn y dyfodol
Cynigion a gyflwynwyd ar 30 Mehefin 2014
NDM5589 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Dadreoleiddio sy'n ymwneud â Phennod 4 o Ran 6 o Ddeddf Tai 2004 (Cynlluniau Blaendal Tenantiaeth) i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm rhif 4) yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Mehefin 2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
Mae copi o'r Bil Dadreoleiddio ar gael yma:
Dogfennau'r Bil – Bil Dadreoleiddio [HC] 2013-14 – Senedd y DU