07/12/2011 - Cynigion â Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/06/2014

Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 7 Rhagfyr 2011

Cynigion a gyflwynwyd ar 29 Tachwedd 2011

Dadl Fer

NDM4873 Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth): Cyfraddau credyd a budd y cyhoedd – a ddylai cyfraddau benthyciadau tymor byr gael eu rheoleiddio

NDM4874 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cyflwyno sylwadau brys i Lywodraeth y DU, yn dilyn cyhoeddi Datganiad yr Hydref, ynglyn â’i methiant i ddarparu ysgogiad economaidd digonol i Gymru wrth ymateb i’r sefyllfa economaidd bresennol, ac ynglyn â’i chynigion i gyflwyno tâl sector cyhoeddus rhanbarthol; a

b) mynd ati ar frys i lunio ei chynlluniau ei hun ar gyfer ysgogiad economaidd, a ddylai gynnwys prosiectau seilwaith, cymorth i fusnesau a chymorth i bobl ifanc sy’n ddi-waith.

Cynigion a gyflwynwyd ar 30 Tachwedd 2011

NDM4875 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:  

a) ad-drefnu polisi Addysg Uwch i gryfhau safonau addysgu a gwella canlyniadau graddedigion;

b) sefydlu Sefydliadau Addysg Uwch Cymru fel canolfannau rhagoriaeth ar gyfer ôl-raddedigion ac ymchwil; a

c) rhoi blaenoriaeth i gydweithio gwirfoddol yn hytrach na gorfodi Sefydliadau Addysg Uwch i uno.

Gyda chefnogaeth:
Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

NDM4876 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gresynu wrth benderfyniad Llywodraeth Cymru i uno Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru yn un Corff Amgylcheddol.

2. Yn credu na fu digon o graffu ar achos busnes Llywodraeth Cymru yn amlinellu’r uno arfaethedig.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) Gohirio’r uno arfaethedig nes ei fod wedi bod yn destun craffu cyhoeddus llawn; a

b) Rhoi sylw i bryderon difrifol y sector coedwigaeth ynglyn â chynnwys Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn yr uno.

Gellir gweld achos busnes Llywodraeth Cymru drwy ddilyn y linc a ganlyn:

http://wales.gov.uk/topics/environmentcountryside/consmanagement/seb/publications/businesscase/?skip=1&lang=cy

NDM4877 Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi:

a. pwysigrwydd manwerthu i economi Cymru;

b. gwerth cymdeithasol stryd fawr fywiog i gymunedau lleol; ac

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i warchod y stryd fawr yng Nghymru drwy:

a. Rhoi sylw i anghenion penodol manwerthwyr yn ei hadolygiad o ardrethi busnes a chynlluniau rhyddhad;

b. datblygu canllawiau ar gyfer awdurdodau lleol a fydd yn cynnwys cyngor ynghylch yr arfer gorau ar gyfer rheoli canol trefi; ac

c. cydnabod effaith datblygiadau ar gyrion trefi ar y stryd fawr yn ei hadolygiad o’r system gynllunio.

Cynigion a gyflwynwyd ar 17 Tachwedd 2011

NDM4862

Mick Antoniw (Pontypridd)
Nick Ramsay (Mynwy)
Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru)
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Byron Davies (Gorllewin De Cymru)
Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth)
Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Keith Davies (Llanelli)
Christine Chapman (Cwm Cynon)
Lynne Neagle (Tor-faen)
Eluned Parrott (Canol De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn croesawu’r ystod eang o gefnogaeth, gan gynnwys gan Lywodraeth Cymru, ar gyfer system teithio cyflym integredig (metro) yn seiliedig ar rwydwaith rheilffyrdd y cymoedd;

2. Yn cydnabod nad yw trydaneiddio Rheilffyrdd y Cymoedd wedi’i ddatganoli a bod hynny’n rhagofyniad ar gyfer datblygu’r metro; ac

3. Yn cydnabod y bydd y cyd-destun ariannol presennol, ynghyd â diffyg pwerau benthyca Llywodraeth Cymru, yn golygu y bydd y prosiect yn symud yn ei flaen bob yn dipyn ac y bydd yn galw am ddull cydweithredol wedi’i gydgysylltu gan Lywodraeth Cymru.

Gyda chefnogaeth:

Julie James (Gorllewin Abertawe)

Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 1 Rhagfyr 2011

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM4876

Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:

Yn croesawu penderfyniad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i gynnal ymchwiliad trwyadl i achos busnes Llywodraeth Cymru ynghylch y cynnig i uno Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru yn Un Corff Amgylcheddol

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 2 Rhagfyr 2011

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM4874

1. Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu’r ysgogiad economaidd a fydd yn deillio o’r £216 miliwn o gyllid cyfalaf ychwanegol ar gyfer Cymru a gyhoeddwyd fel rhan o Ddatganiad Hydref Llywodraeth y DU.

Gellir gweld Datganiad yr Hydref drwy ddilyn yr hyperlinc canlynol:

http://cdn.hm-treasury.gov.uk/autumn_statement.pdf (Saesneg yn unig)

2. Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu cyhoeddi’r Contract Ieuenctid a fydd yn darparu help i bobl ifanc ddi-waith.

3. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Dileu is-bwynt 1a) a rhoi yn ei le:

Parhau i weithio gyda Lywodraeth y DU, ar ôl cyhoeddi Datganiad yr Hydref sy’n cynnwys mesurau ar gyfer ysgogiad economaidd, ar ei chynigion i ystyried tâl sector cyhoeddus rhanbarthol.

4. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnwys is-bwynt b) newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn:

Cynnwys goblygiadau cymharol tâl datganoledig mewn unrhyw sylwadau i Lywodraeth y DU ynghylch tâl sector cyhoeddus rhanbarthol.

NDM4877

1. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:

cyhoeddi strategaeth manwerthu.

2. Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu is-bwynt 2 a).