Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 8 Chwefror 2011
Cynigion a gyflwynwyd ar 1 Chwefror 2011
NDM4653 Jane Hutt (Bro Morgannwg) TYNNWYD YN ÔL
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 24.4:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 2011 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar Date 17 Ionawr 2011
NDM4654 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.17, yn cymeradwyo'r Gyllideb Blynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2011-12 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau'r Cynulliad ar 01 Chwefror 2011.
Troednodyn:
Yn unol â'r darpariaethau perthnasol a gynhwysir yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 27.19, mae'r Gyllideb Blynyddol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:
1. y datganiad ysgrifenedig sy’n ofynnol o dan adran 125(3) Deddf Llywodraeth Cymru;
2. yr adnoddau y cytunir arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;
3. cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrennir ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys â'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;
4. cysoniad rhwng y symiau yr amcangyfrifir y telir amdanynt i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a’r symiau yr awdurdodir eu talu o’r Gronfa yn y cynnig; a
5. cysoniad rhwng yr adnoddau i’w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) y Ddeddf a’r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c).
Mae’r wybodaeth ychwanegol ganlynol ar gael i’r Aelodau:
nodyn esboniadol am newidiadau rhwng y cynigion yn y Gyllideb Ddrafft a’r cynigion yn y Gyllideb Blynyddol.
Cynigion a gyflwynwyd ar 25 Ionawr 2011
NDM4642 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.4, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau sy’n ymwneud ag atebolrwydd llywodraeth leol o ran cyflogau, dileu’r ddyletswydd i hybu democratiaeth leol, dileu’r ddyletswydd ddeisebau, cyflawni dyletswyddau digartrefedd drwy’r sector rhentu preifat a diwygio’r Awdurdod Gwasanaethau Tenantiaid yn Rhan(nau) 1 a 6 o’r Mesur Seneddol Lleoliaeth, fel y’i cyflwynwyd i Dy’r Arglwyddi ar 13 Rhagfyr 2010, i’r graddau y mae’r darpariaethau hyn yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Ionawr 2011 yn unol â Rheol Sefydlog 26.2(i).
I weld copi o’r Mesur Seneddol Lleoliaeth i:
http://services.parliament.uk/bills/2010-11/localism.html
NDM4647 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.4, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau hynny sy'n ymwneud â Phaneli'r Heddlu a Throseddu yn Rhan 1 o Fesur Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol, fel y’i cyflwynwyd i Dy’r Cyffredin ar 30 Tachwedd 2010, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Ionawr 2011 yn unol â Rheol Sefydlog 26.2(i).
I weld copi o’r mesur diwygio'r heddlu a chyfrifoldeb cymdeithasol ewch i:
http://services.parliament.uk/bills/2010-11/policereformandsocialresponsibility.html
NDM4648 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.4, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau hynny sy'n ymwneud â phwerau ymafael, cadw a fforffedu o dan is-ddeddfau rheoli da a llywodraethu yn Rhan 4 o Fesur Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol, fel y’i cyflwynwyd i Dy’r Cyffredin ar 30 Tachwedd 2010, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Ionawr 2011 yn unol â Rheol Sefydlog 26.2(i).
i weld copi o’r mesur diwygio'r heddlu a chyfrifoldeb cymdeithasol ewch i:
http://services.parliament.uk/bills/2010-11/policereformandsocialresponsibility.html