Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 8 Mai 2013
Cynigion a gyflwynwyd ar 30 Ebrill 2013
Dadl Fer
NDM5234 Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Gwybod am y Gwenyn
Rôl gwyddoniaeth o ran gwarchod iechyd gwenyn fel peillwyr.
NDM5231 Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ei ymchwiliad undydd i farw-enedigaethau yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Chwefror 2013.
Nodyn: Gosodwyd ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Ebrill 2013.
NDM5232 Christine Chapman (Cwm Cynon)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar Bolisi Amgylchedd Hanesyddol Llywodraeth Cymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Mawrth 2013.
Nodyn: Gosodwyd ymateb y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon i’r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Ebrill 2013.
NDM5233 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y manteision bod Cymru yn rhan o’r Deyrnas Unedig; a
2. Yn nodi pwysigrwydd sicrhau dyfodol Cymru o fewn Teyrnas Unedig gref sy'n datblygu.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 2 Mai 2013
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM5233
1. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cymeradwyo argymhellion adroddiad Rhan I y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru ac yn galw ar Lywodraeth y DU i ddwyn ymlaen deddfwriaeth o fewn y Senedd hon i roi’r cynigion hyn ar waith yn llawn.
Gellir gweld adroddiad Rhan I y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru drwy fynd i:
http://commissionondevolutioninwales.independent.gov.uk/cy/
2. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu ymrwymiad Prif Ysgrifennydd y Trysorlys i chwilio am fodel newydd o ddatganoli ar gyfer Cymru gyda refferendwm ar ragor o bwerau dros drethi a benthyca.