Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 8 Hydref 2008
Cynigion a gyflwynwyd ar 01.10.08
Dadl Fer
NDM4022 Peter Black (Gorllewin De Cymru): Ie dros Gymru – Dyma ein Cyfle!
NDM4025 Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi â phryder bod:
a) Allyriadau CO2 wedi codi 4.7% er 2005;
b) Cyfanswm allyriadau’r chwe nwy ty gwydr wedi codi 3.9% er 2005.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i:
a) Cyflwyno deddfwriaeth i ddatganoli pwerau ynghylch datblygiadau ynni dros 50MW;
a) Cyflwyno deddfwriaeth i ddatganoli pwerau ynghylch rheoliadau adeiladu;
c) Cynhyrchu arfarniad amgylcheddol llawn ar bob datblygiad ffordd newydd yng Nghymru;
d) Buddsoddi’n sylweddol mewn microgynhyrchu;
e) Ymateb i’r hinsawdd economaidd bresennol drwy fuddsoddi’n drwm mewn swyddi gwyrdd.
NDM4023 Mick Bates (Montgomeryshire)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cynaliadwyedd ar Dlodi Tanwydd yng Nghymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Gorffennaf 2008.
Sylwer: Gosodwyd ymateb y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1Hydref 2008.
NDM4024 Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar y Cyfnod Sylfaen
a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Gorffennaf 2008.
Sylwer: Gosodwyd ymateb y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1Hydref 2008.
Gwelliannau a Gyflwynwyd ar 3 Hydref 2008
1. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ym mhwynt 2 a. rhoi’r gair ‘adnewyddadwy’ ar ôl ‘datblygiadau ynni’.
2. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ym mhwynt 2, rhoi is-bwynt newydd:
Buddsoddi’n sylweddol mewn datblygu technolegau ynni morol.
3. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ym mhwynt 2, rhoi is-bwynt newydd:
Ystyried cyfleoedd ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy o amddiffynfeydd rhag llifogydd.
4. Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
2. Yn croesawu ymrwymiadau Llywodraeth Cynulliad Cymru i:
a) Sicrhau gostyngiad o 3% y flwyddyn mewn allyriadau nwyon ty gwydr;
b) Gwneud cais i bwerau gael eu datganoli ar gyfer datblygiadau ynni mwy na 50MW;
c) Gwneud cais i bwerau dros reoliadau adeiladu gael eu datganoli;
d) Mynd ati’n barhaus i adolygu’r Canllawiau Cynllunio ac Arfarnu Trafnidiaeth yng Nghymru er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â tharged y Llywodraeth ar gyfer nwyon ty gwydr.
e) Rhoi cymorth sylweddol ar gyfer microgynhyrchu;
f) Ymateb i’r hinsawdd economaidd sydd ohoni drwy baratoi strategaeth swyddi gwyrdd.
Gellir gweld dogfen Arweiniad ar Arfarnu a Chynllunio Trafnidiaeth Cymru (WelTAG) ar y ddolen ganlynol:
http://new.wales.gov.uk/topics/transport/publications/weltag/?lang=cy