Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 8 Hydref 2013
Cynigion a gyflwynwyd ar 1 Hydref 2013
NDM5315 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod Llywodraeth y DU yn parhau â’i chynlluniau i gyflwyno taliadau uniongyrchol;
2. Yn galw eto ar Lywodraeth y DU i newid ei pholisi ar daliadau uniongyrchol er mwyn adlewyrchu’r ffaith eu bod yn debygol o gael effaith negyddol ar nifer o denantiaid, a hefyd beri risg i hyfywedd ariannol cymdeithasau tai;
3. Yn canmol y gwaith sy’n cael ei wneud gan sefydliadau tai a sefydliadau eraill i helpu pobl i ymdopi â’r newidiadau.
NDM5316 Gwenda Thomas (Castell-nedd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).
Gosodwyd Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 28 Ionawr 2013.
Gosodwyd adroddiad Y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 18 Gorffennaf 2013.
NDM5317 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69 sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.
NDM5318 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru).
Gosodwyd Bil Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 30 Medi 2013.
NDM5319 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69 sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 2 Hydref 2013
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM5316
1. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi pwysigrwydd gwasnaeth eiriolaeth unigol o ran sicrhau bod buddiannau gorau pobl sy'n dibynnu ar wasanaethau cymdeithasol yn cael eu diogelu.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 3 Hydref 2013
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM5315
1. Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y gallai taliadau uniongyrchol arwain at fwy o achosion o droi allan, gan arwain at gostau ychwanegol ar gyfer troi allan ac ailgartrefu unigolion, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i roi’r arferion gorau ar waith er mwyn osgoi achosion o droi allan.
2. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ym mhwynt 1, dileu popeth ar ôl ‘â’i chynlluniau’ a rhoi yn ei le:
‘i safoni taliadau uniongyrchol a gyflwynwyd gan Lywodraeth Lafur flaenorol y DU’
3. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn croesawu’r ‘Universal Credit Local Support Services Framework’, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU ac a luniwyd ar y cyd ag asiantaethau, gan gynnwys Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sy’n rhestru’r cymorth sydd ar gael i hawlwyr y mae angen talu costau tai yn uniongyrchol i landlordiaid.
Gellir gweld yr Universal Credit Local Support Services Framework drwy fynd i:
https://www.gov.uk/government/publications/universal-credit-local-support-services-framework
4. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys ar ddiwedd pwynt 1:
‘sy’n cynnig y potensial i rymuso pobl drwy roi rhagor o reolaeth iddynt dros eu harian, a chynnig llwybr cliriach i waith ac annibyniaeth.’
5. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth y DU i edrych yn ofalus ar holl ganfyddiadau’r Prosiectau Arddangos Taliadau Uniongyrchol a fydd yn dod i ben ddiwedd mis Rhagfyr 2013.
6. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol, undebau credyd a chymdeithasau tai er mwyn ystyried y ffyrdd gorau o sicrhau bod cynnyrch ariannol gyda nodweddion cyllidebu parod ar gael yn fwy eang, ac i hyrwyddo defnyddio gwasanaethau cyngor ariannol ymysg tenantiaid, er mwyn helpu’r rheini y mae taliadau uniongyrchol yn cael effaith arnynt.