Cynigion a gwelliannau i'w trafod ar 8 Hydref 2014
Cynigion a gyflwynwyd ar 1 Hydref 2014
Dadl Fer
NDM5594 Keith Davies (Llanelli): Adfywio Trefol 2.0 - Creu cymunedau trefol a chanol trefi cynaliadwy
NDM5590 David Rees (Aberafan)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar wasanaethau orthodontig yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Gorffennaf 2014.
Nodyn: Gosodwyd ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Hydref 2014.
NDM5591 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar ei ymchwiliad i'r arferion gorau o ran y gyllideb, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Gorffennaf 2014.
Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Hydref 2014
NDM5592 Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.2:
Yn cytuno bod Rheoliadau Addysg (Sefydliadau Ewropeaidd) a Chymorth i Fyfyrwyr (Cymru) (Dirymu) 2014, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 18 Gorffennaf, yn cael eu dirymu.
NDM5593 Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu bod Llywodraeth Cymru, ynghyd â Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, wedi sicrhau £95 miliwn o gyllid ychwanegol dros ddwy flynedd ar gyfer y Grant Amddifadedd Disgyblion yn y gyllideb newydd.
2. Yn croesawu bod cyllid hefyd wedi cael ei ymestyn i gynnwys Premiwm Disgyblion y Blynyddoedd Cynnar ar gyfer plant o dan 5 oed.
3. Yn cydnabod bod y cytundeb cyllidebol dwy flynedd yn helpu i fynd i'r afael â'r pryderon a fynegwyd gan ysgolion ym mlynyddoedd blaenorol y cynllun o ran sicrhau bod cyllid yn parhau.
4. Yn cydnabod pwysigrwydd y ddau gynllun o ran helpu i dorri'r cysylltiad rhwng tlodi a thangyflawni addysgol ac o ran cau'r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion o gefndiroedd difreintiedig a chefndiroedd mwy breintiedig.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 3 Hydref 2014
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:
NDM5593
1. Elin Jones (Ceredigion)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn nodi'r toriad mewn termau real o £56 miliwn yng nghyllideb addysg y flwyddyn hon sy'n cynnwys toriadau o £5 miliwn i'r Grant Effeithiolrwydd Ysgolion a £10.7 miliwn i'r cynllun prentisiaeth Recriwtiaid Newydd.
2. Yn nodi toriadau pellach o £26.4 miliwn i addysg yn y gyllideb ddrafft o'i chymharu â'r gyllideb atodol ar gyfer mis Mehefin 2014.
3. Yn credu bod Llywodraeth Cymru wedi mynd yn groes i ysbryd cytundebau blaenorol ar gyllidebau ac yn gwrthod y syniad o dincera â'r gyllideb tra bod diffygion sylfaenol yn parhau.
2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi nad oes gwerthusiad ffurfiol o'r Grant Amddifadedd Disgyblion ar gael eto.