Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 08 Rhagfyr 2009
Cynigion a gyflwynwyd ar 01 Rhagfyr 2009
NDM4341 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 24.4:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) (Rhif 2) 2009 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Tachwedd 2009.
NDM4342 Andrew Davies (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.17, yn cymeradwyo'r Gyllideb Blynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2010-11, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus ac a e-bostiwyd at Aelodau'r Cynulliad ar ddydd Mawrth 01 Rhagfyr 2009.
Troednodyn:
Yn unol â'r darpariaethau perthnasol a gynhwysir yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 27.19, mae'r Gyllideb Blynyddol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:
y datganiad ysgrifenedig sy’n ofynnol o dan adran 125(3) Deddf Llywodraeth Cymru;
yr adnoddau y cytunir arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;
cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrennir ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys â'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;
cysoniad rhwng y symiau yr amcangyfrifir y telir amdanynt i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a’r symiau yr awdurdodir eu talu o’r Gronfa yn y cynnig; a
cysoniad rhwng yr adnoddau i’w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) y Ddeddf a’r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c).
Mae’r wybodaeth ychwanegol ganlynol ar gael i’r Aelodau:
nodyn esboniadol am newidiadau rhwng y cynigion yn y Gyllideb Ddrafft a’r cynigion yn y Gyllideb Blynyddol.
NDM4343 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn croesawu adroddiad Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru 2008/09, y gosodwyd copi ohono yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Rhagfyr 2009.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 03 Rhagfyr 2009
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM4343
1. Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddiogelu gwasanaethau ar gyfer pobl hyn yng ngoleuni pwysau cyllidebol.
2. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi â braw y bu cynnydd o 70% yn nifer marwolaethau ychwanegol y gaeaf ymysg pobl hyn yng Nghymru.
3. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod y potensial i’r Cynllun Cydraddoldeb Sengl wireddu dyheadau’r Comisiynydd Pobl Hyn ac yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddarparu manylion effeithiolrwydd y cynllun yng nghyswllt pobl hyn cyn gynted ag sy’n bosibl.
Mae’r Cynllun Cydraddoldeb Sengl ar gael drwy ddilyn y ddolen ganlynol:
http://wales.gov.uk/topics/equality/sescheme/?skip=1&lang=cy