Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 8 Rhagfyr 2010
Cynigion a gyflwynwyd ar 1 Rhagfyr 2010
Dadl Fer
NDM4616 Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): ‘O bydded i’r hen iaith barhau – Cymru'n Un a’r Iaith Gymraeg’
NDM4613 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2011-12, fel y pennir yn Nhabl 1 “Cynigion y Gyllideb Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2011-12”, a gyflwynwyd gerbron y Cynulliad ar 1 Rhagfyr 2010; a’i bod yn cael ei hymgorffori yn y Cynnig Blynyddol am y Gyllideb dan Reol Sefydlog 27.17(ii).
NDM4614 Nick Ramsay (Sir Fynwy)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau bod cyllid ar gyfer ysgolion yn cyrraedd gwasanaethau rheng flaen;
2. Yn credu, drwy beidio â mynd drwy awdurdodau addysg lleol, y bydd ysgolion yn derbyn cyllid mewn ffordd decach a mwy tryloyw; a
3. Yn credu y bydd y system hon yn rhoi hyblygrwydd i ysgolion reoli eu materion eu hunain ac y bydd yn arwain at safonau uwch.
NDM4615 Nick Ramsay (Sir Fynwy)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi pwysigrwydd hyrwyddo sgiliau bywyd a mentergarwch yn Ysgolion Cymru; a
2. Yn credu y dylai pob Ysgol Uwchradd yng Nghymru sefydlu menter gymdeithasol i’w rheoli a’i chynnal gan ddisgyblion.
NDM4617 Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi ag edifeirwch:
Bod disgwyliad oes yng Nghymru wedi methu cynyddu yn unol â disgwyliad oes yn Lloegr, a
Bod y gwahaniaeth mewn disgwyliad oes rhwng gwahanol rannau o Gymru yn dal i dyfu.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 03 Rhagfyr 2010
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
1. Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi ac yn cefnogi gwaith y Grwp Gorchwyl a Gorffen annibynnol ar strwythur y dull o ddarparu addysg a sefydlwyd i ystyried nid yn unig cyllido, ond hefyd y trefniadau gwella perfformiad a llywodraethu ac, yn arbennig, pa wasanaethau addysg y dylid eu darparu a chan bwy.
2. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le
Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol yn credu:
1. Dylai monitro llwyddiant y system addysg fod yn seiliedig ar safonau addysgol ac nid dim ond mewnbwn ariannol;
2. Na ddylid darparu cyllid craidd ar gyfer ysgolion drwy grantiau penodol ac felly mae'n galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i amlinellu amserlen glir er mwyn lleihau nifer y grantiau wedi'u neilltuo i ysgolion yn sylweddol, gan eu bod yn fiwrocrataidd ac yn lleihau gallu'r ysgol i bennu gweithgareddau yn ôl ei hanghenion ei hun; a
3. Dylai arian gan Lywodraeth Cynulliad Cymru sy'n cael ei ddarparu'n uniongyrchol i ysgolion fod yn seiliedig ar dorri'r cysylltiad rhwng amddifadedd a chyrhaeddiad addysgol.
NDM4615
Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi cefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer sgiliau bywyd a mentergarwch yn ysgolion Cymru, fel y’i hamlygir yn y Strategaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid: Cynllun Gweithredu i Gymru 2010-15.
Gallwch weld strategaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru, Strategaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid: Cynllun Gweithredu i Gymru 2010-15 drwy ddilyn yr hyperddolen ganlynol:
http://wales.gov.uk/topics/businessandeconomy/publications/yesactionplan1015/?skip=1&lang=cy
NDM4617
1. Nick Ramsay (Mynwy)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu wrth fethiant Llywodraeth Cynulliad Cymru i dorri costau rheoli'r GIG ac ailgyfeirio arian i wasanaethau'r rheng flaen er mwyn gwella disgwyliad oes.
2. Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi’r cynnydd cyson mewn disgwyliad oes yng Nghymru a amlygir ym Mwletin Ystadegol y mis diwethaf (SB 94/2010), sy’n cadarnhau bod disgwyliad oes wedi codi 3.9 blynedd ar gyfer dynion a 2.7 flynedd ar gyfer menywod ers dechrau’r 1990au.
Gallwch weld Bwletin Ystadegol SB 94/2010 drwy ddilyn yr hyperddolen ganlynol:
http://wales.gov.uk/topics/statistics/headlines/health2010/101124/?skip=1&lang=cy