08/12/2015 - Cynigion â Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 01/12/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 04/12/2015

Cynigion a gwelliannau i'w trafod ar 8 Rhagfyr 2015

Cynigion a gyflwynwyd ar 1 Rhagfyr 2015

NDM5899 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru).

Gosodwyd Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 8 Mehefin 2015.

Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 30 Tachwedd 2015.

NDM5900 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy'n deillio o Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o'r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy'n codi o ganlyniad i'r Bil.

NDM5901 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru).

Gosodwyd y Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 13 Gorffennaf 2015.

Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Fil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 27 Tachwedd 2015.

NDM5902 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy'n deillio o'r Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o'r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy'n codi o ganlyniad i'r Bil.

NDM5903 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o'r Gorchymyn Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 (Addasu Canlyniadol) 2015 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Tachwedd 2015.

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 3 Rhagfyr 2015

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:

NDM5899

1.        

Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddileu'r darpariaethau yn y Bil a fydd yn cyfyngu ar y defnydd o e-sigaréts.