Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 09 Chwefror 2011
Cynigion a gyflwynwyd ar 02 Chwefror 2011
Dadl Fer
NDM4657 Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): Yn Berffaith Iach? Byrddau Iechyd Lleol a Chyflenwi Gwasanaethau yn Effeithiol
NDM4656 Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu penderfyniad Llywodraeth y DU i ddarparu cymorth ariannol i bobl yn Lloegr a heintiwyd â hepatitis C ar ôl cael trallwysiadau gwaed halogedig.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddarparu cymorth ariannol tebyg i bobl yng Nghymru sydd mewn sefyllfa debyg.
NDM4658 Nick Ramsay (Mynwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r cynnydd a wnaed dan y Cynllun Gweithredu Strategol i Gymru ar gyfer Anhwylderau yn y Sbectrwm Awtistig;
2. Yn mynegi pryder serch hynny nad yw nifer o bobl ag awtistiaeth a'u rheini/gofalwyr yn dal yn cael y gefnogaeth y mae ei hangen arnynt, fel y dangoswyd yn adroddiad Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru Ein bywyd - ein dewis;
3. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i adolygu'r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau yn y Sbectrwm Awtistig er mwyn delio â'r pryderon a godir yn Ein bywyd - ein dewis.
Mae copi o'r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau yn y Sbectrwm Awtistig ar gael drwy ddilyn y ddolen ganlynol:
http://wales.gov.uk/topics/childrenyoungpeople/publications/autisticspectrumdisorderplan/?lang=cy
Mae copi o Ein dewis - ein bywyd ar gael drwy ddilyn y ddolen ganlynol:
http://www.autism.org.uk/cy-gb/get-involved/campaign-for-change/our-campaigns/the-life-we-choose.aspx
NDM4659 Gareth Jones (Aberconwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi'r adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu ar Rôl Mentrau Cymdeithasol yn Economi Cymru osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Tachwedd 2010.
Nodyn: Ymateb y Gweinidog dros a'r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Chwefror 2011.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 04 Chwefror 2011
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM4656
Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu’r cyfan ac yn ei le rhoi:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru
1. Yn nodi penderfyniad Llywodraeth y DU i ddarparu cymorth ariannol i bobl yn Lloegr a heintiwyd â hepatitis C ar ôl cael trallwysiadau gwaed halogedig.
2. Yn nodi bod Llywodraeth Cynulliad Cymru ar hyn o bryd yn ystyried Adolygiad Adran Iechyd y DU o’r Cymorth sydd ar gael i Unigolion a heintiwyd â hepatitis C a/neu HIV ar ôl cael Trallwysiadau Gwaed neu Gynhyrchion Gwaed a gyflenwir gan y GIG, ac i’w dibynyddion, ac mae’n ymgynghori â phartïon â diddordeb.
Mae copi o’r ddogfen gan Adran Iechyd y DU, sef “Review of the Support Available to Individuals Infected with Hepatitis C and/or HIV by NHS supplied Blood Transfusions or Blood Products and their Dependants” ar gael drwy ddilyn y ddolen hon:
NDM4658
1. Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 3 ac yn ei le rhoi:
3. Yn nodi y cytunwyd ar gyllid gwerth dros £2 filiwn ar gyfer 2011-12 i ddatblygu ymhellach y camau yn y Cynllun Gweithredu Strategol i Gymru ar gyfer Anhwylderau yn y Sbectrwm Awtistig; a
4. Yn nodi bod Llywodraeth Cynulliad Cymru ar hyn o bryd yn cynnal ei gwerthusiad ei hun o’r cynnydd a wnaed o ran y Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau yn y Sbectrwm Awtistig yn ystod ei ddwy flynedd gyntaf, y bydd y gwerthusiad hwn yn nodi meysydd y mae angen ehangu neu wella arnynt a rhoddir ystyriaeth i ganfyddiadau Adroddiad Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru, Ein bywyd - ein Dewis, wrth lunio’r adroddiad gwerthuso hwn.
2. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod llawer o’r cymorth sydd ei angen ar bobl gydag awtistiaeth, a’u rhieni/gofalwyr, yn cael ei gyllido drwy gyllidebau addysg, llywodraeth leol a chyfiawnder cymdeithasol Llywodraeth Cynulliad Cymru, ac y byddai toriadau pellach i’r cyllidebau hyn yn cyfyngu’n sylweddol ar y gallu i gyllido cymorth i awtistiaeth.