Cynigion a gwelliannau i'w trafod ar 9 Chwefror 2016
Cynigion a gyflwynwyd ar 2 Chwefor 2016
NDM5947 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.12:
Yn nodi'r Gyllideb Ddrafft ar gyfer y flwyddyn ariannol 2016-2017 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth ar 8 Rhagfyr 2015.
'Cynigion Cyllideb Ddrafft 2016-17'
NDM5948 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Deddf Tai 1985 (Diwygio Atodlen 2A) (Troseddau Difrifol) (Cymru) 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Tachwedd 2015.
NDM5949 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 2) 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Rhagfyr 2015.
NDM5950 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o Orchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Diwygio Atodlen 6) 2016 yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Rhagfyr 2015.
Cynigion a gyflwynwyd ar 8 Chwefor 2016
NDM5955 Ken Skates (De Clwyd):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:
Yn cymeradwyo Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru)
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 3 Chwefror 2016
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:
NDM5947
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
yn gresynu at y ffaith nad yw'r gyllideb ddrafft yn ymgymryd â dull gweithredu Cymru gyfan mewn perthynas â buddsoddi cyfalaf yn y dyfodol;
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y ffaith bod y gyllideb ddrafft yn cynnig toriad niweidiol a difrifol i gymorth ariannol ar gyfer sefydliadau addysg uwch yng Nghymru.
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y ffaith nad yw cynnig drafft y gyllideb ar gyfer pwysau ariannu parhaus ar lywodraeth leol wedi cael ei baru â chynnig ar gyfer grant sefydlogi gwledig.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 4 Chwefror 2016
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:
NDM5947
1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu pob dim a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn credu nad yw Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17 yn diwallu anghenion pobl Cymru.