Cynigion a gwelliannau i'w trafod ar 9 Mawrth 2016
Cynigion a gyflwynwyd ar 28 Ionawr 2016
NDM5945
Eluned Parrott (Canol De Cymru)
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)
Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu at y ffaith bod rhwng 300 a 350 o bobl yn marw o ganlyniad i hunanladdiad bob blwyddyn yng Nghymru, gyda'r ffigurau diweddaraf yn dangos mai hunanladdiad yw'r prif achos o farwolaeth ymhlith pobl ifanc rhwng 20 a 34 oed;
2. Yn cydnabod bod pobl sydd wedi cael diagnosis o gyflwr iechyd meddwl mewn perygl arbennig ac amcangyfrifir bod gan 90 y cant o bobl sy'n ceisio cyflawni hunanladdiad neu'n marw o ganlyniad i hunanladdiad un neu fwy o gyflyrau iechyd meddwl;
4. Yn credu bod angen gwneud mwy i annog pobl i siarad yn agored am hunanladdiad a theimladau hunanladdol, i godi ymwybyddiaeth a helpu i sicrhau nad oes neb yn cael eu gadael i deimlo eu bod yn dioddef ar eu pen eu hunain;
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gwella'r broses o gasglu data i adnabod y rhai sy'n wynebu'r perygl mwyaf;
b) sicrhau bod cymorth dilynol ar gael i bobl sy'n mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys ar ôl hunan-niwed neu geisio cyflawni hunanladdiad;
c) darparu ffyrdd mwy effeithiol o gyfeirio pobl at wasanaethau gwrando ac eiriolaeth;
d) edrych ar gyflawni prosiectau megis y parth tawelwch yn Lerpwl sy'n darparu cyngor sydd ar flaen y gad mewn ffordd sy'n briodol i oedran ac sy'n apelio at bobl ifanc, ac enghreifftiau cenedlaethol a rhyngwladol eraill o arferion gorau; ac
e) asesu'r cymorth sydd ar gael i deuluoedd unigolion sydd â salwch meddwl.
Cefnogir gan:
William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Cynigion a gyflwynwyd ar 2 Mawrth 2016
Dadl Fer
NDM5987 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cadw llywodraeth leol yn lleol - yr achos dros ddiogelu Sir Benfro rhag cynlluniau uno Llywodraeth Cymru.
NDM5988 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2016-2017 (Setliad Terfynol – Cynghorau). Gosodwyd copi o'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Mawrth 2016.
NDM5989 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2016-2017 (Setliad Terfynol – Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu). Gosodwyd copi o'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Mawrth 2016.
NDM5990 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn mabwysiadu'r Cod Ymddygiad diwygiedig ar gyfer Aelodau'r Cynulliad, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Mawrth 2016.
NDM5991 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod i gydnabod cyflawniad cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol menywod yng Nghymru, a'r angen parhaus i gyflymu cydraddoldeb rhwng y rhywiau – a hynny'n benodol mewn bywyd cyhoeddus.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 3 Mawrth 2016
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:
NDM5991
1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi mai'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau cyfredol yw'r isaf a gofnodwyd erioed.
2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod mwy o fenywod yn gweithio yn y DU nag erioed o'r blaen.
3. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth y DU y bydd tablau cynghrair sy'n rhestru cwmnïau mawr yn ôl trefn y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn cael eu cyhoeddi erbyn 2018.
4. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y ffaith bod menywod sy'n gweithio yng Nghymru wedi wynebu cynnydd mwy mewn costau gofal plant nag mewn mannau eraill yn y DU.