Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 09 Mehefin 2010
Cynigion a gyflwynwyd ar 02 Mehefin 2010
Dadl Fer
NDM4492 Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Newid gwleidyddiaeth: a all diwygio democrataidd ddechrau yn y Cynulliad?
NDM4489 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wrth weithredu o dan Reol Sefydlog Rhif 1.10, yn ethol Gareth Jones AC a John Griffiths AC, yn ymddiriedolwyr i gynllun pensiwn Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn lle Mohammad Asghar AC a Carwyn Jones AC.
NDM4490 Nick Ramsay (Mynwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi â chryn bryder maint y diffyg yng nghyllideb y Deyrnas Unedig;
2. Yn croesawu ymdrechion cynnar Llywodraeth Ei Mawrhydi i wella cyllid cyhoeddus; a
3. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i weithio'n agosach gyda Llywodraeth y DU i sicrhau rhagor o welliannau.
NDM4491 Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Adroddiad yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig ar ei Ymchwiliad i Ddyfodol yr Ucheldiroedd a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 01 Ebrill 2010.
Noder: Ymateb Llywodraeth Cymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 02 Mehefin 2010.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 04 Mehefin 2010
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM4490
Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dilewch y cyfan a rhoi yn ei le:
Mae’r Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r diffyg yng nghyllideb y Deyrnas Unedig a’r trafodaethau sy’n mynd rhagddynt rhwng Llywodraeth Cynulliad Cymru a Llywodraeth y DU;
2. Yn nodi bod angen eglurder ynghylch cynigion Llywodraeth y DU ar gyfer gwariant cyhoeddus er mwyn medru gwneud penderfyniadau effeithiol yn y flwyddyn ariannol hon;
3. Yn nodi bod angen i’r amseriad ar gyfer y toriadau arfaethedig mewn gwariant cyhoeddus fod yn iawn ac os torrir gwariant yn rhy fuan, tanseilir yr adferiad mawr ei angen gan arwain at golli swyddi;
4. Yn gresynu methiant Llywodraeth y DU i ystyried y tanwariant yng Nghymru, fel y’i cydnabu gan Gomisiwn Holtham wrth gynnig toriadau mewn gwariant cyhoeddus.