09/10/2013 - Cynigion a Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 9 Hydref 2013

Cynigion a gyflwynwyd ar 2 Hydref 2013

Dadl Fer

NDM5320 Eluned Parrott (Canol De Cymru): Dewisiadau Cadarnhaol – rhoi'r sgiliau a'r profiad i bobl ifanc ddatblygu gyrfa.

NDM5322 Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Gwasanaethau Bws Gwledig yng Nghymru – Ar y Ffordd i Nunlle

NDM5323 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod gwerth cyfartal addysg alwedigaethol ac academaidd;

2. Yn credu bod economi ffyniannus yn cael budd o fyfyrwyr â sgiliau cynhwysfawr; a

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgynghori â rhanddeiliaid a gweithio gyda hwy i gynllunio cwricwlwm galwedigaethol sy'n annog cydraddoldeb ag addysg academaidd yng Nghymru.

NDM5324 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn condemnio bwriad Llywodraeth y DU i breifateiddio'r Post Brenhinol;

2. Yn cydnabod bod preifateiddio yn agor y drws i fygythiadau i wasanaethau post yng Nghymru wledig a threfol yn y dyfodol;

3. Yn nodi pwysigrwydd y Post Brenhinol i Rwydwaith Swyddfa’r Post;

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU ar bwysigrwydd gwasanaethau post sy'n atebol i'r cyhoedd i economi Cymru ac i gymunedau Cymru; a

b) ystyried cynnig Plaid Cymru ar gyfer datganoli gwasanaethau post er mwyn diogelu gwasanaeth cyffredinol a fforddiadwy.

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 3 Hydref 2013

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM5323

1. Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn croesawu cytundeb cyllideb Plaid Cymru i greu dros 5,500 o brentisiaethau ac, yn benodol, dros 2,500 o brentisiaethau uwch.

NDM5324

1. Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn rhannu pryderon yr undebau llafur ynghylch y bygythiad posibl i weithlu’r Post Brenhinol yng Nghymru;

2. Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu is-bwynt 4b.

3. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1) Yn nodi bwriad Llywodraeth y DU i breifateiddio’r Post Brenhinol.

2) Yn cydnabod:

a) y bydd preifateiddio yn diogelu’r gwasanaeth cyffredinol, yn galluogi’r Post Brenhinol i gasglu arian yn yr un modd â'i gystadleuwyr, ac yn rhoi cyfranddaliadau am ddim i’r 150,000 o bobl sy’n gweithio i’r Post Brenhinol; a

b) y bydd gan y Post Brenhinol wedi’i breifateiddio gyfrifoldeb cyfreithiol o hyd i ddanfon i bob cyfeiriad, boed mewn ardal drefol neu wledig, o dan ofynion sylfaenol y Gwasanaeth Cyffredinol.

3) Yn cydnabod pa mor bwysig yw’r Post Brenhinol i rwydwaith Swyddfa’r Post, nad yw Swyddfa’r Post ar werth, ac na fydd cynllun i gau Swyddfeydd Post o dan Lywodraeth bresennol y DU.  

4) Yn gresynu bod 7,000 o Swyddfeydd Post wedi cael eu cau o dan Lywodraeth Lafur ddiwethaf y DU.

5) Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU ar ei rhaglen £1.34 biliwn i gynnal rhwydwaith sy’n cynnwys o leiaf 11,500 o ganghennau Swyddfa’r Post ledled y DU.

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 4 Hydref 2013

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM5323

1. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn nodi bod Llywodraeth Glymblaid y DU wedi creu 1.2 miliwn o brentisiaethau yn Lloegr ers 2010, tra oedd nifer y bobl ar brentisiaethau yng Nghymru wedi gostwng bron 30% rhwng 2006 a 2012.

2. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ym mhwynt 3, dileu ‘cwricwlwm galwedigaethol sy’n annog cydraddoldeb’ ac yn lle hynny, rhoi:

‘strategaeth sgiliau sy’n annog cydraddoldeb o ran parch a chyfle’

3. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar ffyrdd o wella mynediad at brentisiaethau a goresgyn y rhwystrau ymarferol a chanfyddiadol sy’n atal pobl ifanc rhag chwilio am raglen brentisiaeth a gwneud cais am raglen o'r fath yng Nghymru.

NDM5324

1. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ym mhwynt 1, dileu “Yn condemnio” a rhoi “Yn nodi” yn ei le.  

2. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth y DU yn trosglwyddo rhwymedigaethau hanesyddol o oddeutu £37.5 biliwn o Gynllun Pensiwn y Post Brenhinol i Gynllun Pensiwn Statudol newydd y Post Brenhinol.  

3. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i wasanaeth post cyffredinol, chwe diwrnod yr wythnos, a ddiogelir gan y gyfraith yn Neddf Gwasanaethau Post 2011.

Mae Deddf Gwasanaethau Post 2011 ar gael drwy ddilyn y linc a ganlyn:

http://www.legislation.gov.uk/ukpga/2011/5/contents

4. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys ar ddiwedd pwynt 3:

‘ac nad yw’r bwriad i breifateiddio yn cynnwys Swyddfa’r Post.’

5. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 4 newydd, ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn nodi ymdrechion niferus y Blaid Lafur i breifateiddio’r Post Brenhinol hyd at 2009 a'r rhaglen i gau Swyddfeydd Post, lle cafodd 216 o swyddfeydd post eu cau yng Nghymru o dan y Blaid Lafur rhwng mis Hydref 2007 a mis Ionawr 2009;

6. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 4 newydd, ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn croesawu’r ffaith nad oes unrhyw swyddfeydd post wedi cau ers 2010 o ganlyniad i bolisi Llywodraeth Glymblaid y DU.

7. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Dileu is-bwynt 4(b).