09/11/2010 - Cynigion â Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 9 Tachwedd 2010

Cynigion a gyflwynwyd ar 2 Tachwedd  2010

NDM4572 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 24.4:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Rheoliadau Anffurfio (Triniaethau a Ganiateir) (Cymru) (Diwygio) 2010 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar Date 7 Hydref 2010.

NDM4573 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 24.4:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) (Diwygio) 2010 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar Date 7 Hydref 2010.

NDM4574 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 24.4:

Yn cymeradwyo Gorchymyn Drafft Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer Refferendwm Cymru (Darpariaethau Deddf Cynulliad) (Cwestiwn y Refferendwm, Dyddiad y Refferendwm Etc.) 2010.

Gosodwyd y Gorchymyn drafft a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 21 Hydref 2010;

Gosodwyd yr Adroddiad ar farnau’r Comisiwn Etholiadol ar y cwestiwn refferendwm arfaethedig gerbron y Cynulliad ar 21 Hydref 2010.

NDM4575 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 24.4:

Yn cymeradwyo Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Diwygio Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006) 2010

Gosodwyd y Gorchymyn drafft a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 21 Hydref 2010.

NDM4576 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn croesawu Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru ar gyfer 2009-10; a

2. Yn nodi y bydd y Dirprwy Weinidog dros Blant yn llunio ymateb gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac yn adrodd ar hyn i’r Cynulliad Cenedlaethol erbyn 31 Mawrth 2011.

Mae Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru ar gyfer 2009-10 i’w weld yn:

http://www.complantcymru.org.uk/cy/rhestr-cyhoeddiadau/

NDM4577 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Rheol Sefydlog 35.6 and 35.8:

Yn atal Rheol Sefydlog 24.6 i ganiatáu i Gynigion Heb Ddyddiad Trafod NDM4574 a NDM4575 gael eu hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 9 Tachwedd 2010.

Gwelliannau a Gyflwynwyd ar 03 Tachwedd 2010

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM4576

Nick Ramsay (Mynwy)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i weithredu’n llawn argymhellion y Comisiynydd yn brydlon ac yn gyson.

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 04 Tachwedd 2010

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM4576

1. Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

‘Yn nodi bod Comisiynydd y Plant wedi mynegi pryderon, fel y mae wedi’i wneud droeon dros y blynyddoedd, am y diffyg cynnydd o ran mynd i’r afael â thlodi plant’