Cynigion a gwelliannau i'w trafod ar 9 Rhagfyr 2014
Cynigion a gyflwynwyd ar 2 Rhagfyr 2014
NDM5645 Leighton Andrews (Rhondda)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Caethwasiaeth Fodern sy'n ymwneud ag eiriolwyr masnachu plant, canllawiau ynghylch adnabod a chefnogi dioddefwyr a rhagdybio oedran, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Tachwedd 2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).
Cewch gopi o'r Bil ar wefan Senedd y DU:
http://services.parliament.uk/bills/2014-15/modernslavery.html (Saesneg yn unig)
NDM5646 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Troseddu Difrifol sy'n ymwneud â chreulondeb at blant, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Tachwedd 2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).
Gellir cael copi o'r Bil ar wefan Senedd y DU:
http://services.parliament.uk/bills/2014-15/seriouscrime.html (Saesneg yn unig)
NDM5649 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o'r Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014 yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Tachwedd 2014.
NDM5650 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o'r Rheoliadau Cadw a Chyflwyno Pysgod (Cymru) 2014 yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Tachwedd 2014.
NDM5651 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.25:
Yn cymeradwyo'r Gyllideb Flynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2014-2015 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth ar 2 Rhagfyr 2014.
Troednodyn:
Yn unol â darpariaethau perthnasol Deddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20.28, mae'r Gyllideb Flynyddol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:
1. y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;
2. yr adnoddau y cytunodd y Trysorlys arnynt ar gyfer cyllideb bloc Cymru am y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;
3. cysoni rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd i gyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau i'w hawdurdodi i'w defnyddio yn y cynnig;
4. cysoni rhwng yr amcangyfrif o'r symiau i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau i'w hawdurdodi ar gyfer talu allan o'r Gronfa yn y cynnig; a
5. cysoni rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau i'w hawdurdodi ar gyfer talu allan o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c).
Darparwyd yr wybodaeth atodol ganlynol i'r Aelodau:
Nodyn Esboniadol ar y newidiadau rhwng cynigion y Gyllideb Ddrafft a'r Gyllideb Flynyddol.
NDM5652 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru).
Gosodwyd Bil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 7 Gorffennaf 2014.
Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar Bil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 28 Tachwedd 2014.
NDM5653 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy'n deillio o'r Bil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o'r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy'n codi o ganlyniad i'r Bil.