Cynigion a gwelliannau i'w trafod ar 9 Rhagfyr 2015
Cynigion a gyflwynwyd ar 17 Tachwedd 2015
NDM5885
Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)
Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)
Eluned Parrott (Canol De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod gwerth y celfyddydau a chreadigrwydd i addysg a datblygiad ein pobl ifanc, gan ddarparu profiad cyfoethog yn eu rhinwedd eu hunain, ond gan hefyd helpu i wella gallu plant i ganolbwyntio, gan ysgogi eu dychymyg a'u creadigrwydd, adeiladu hyder, codi dyheadau a rhoi gwell dealltwriaeth o bobl eraill iddynt a gwell empathi ar gyfer pobl eraill;
2. Yn nodi â phryder bod cyfyngiadau ar gyllidebau awdurdodau lleol dros y degawd diwethaf wedi rhoi pwysau cynyddol ar wasanaethau cerddorol anstatudol;
3. Yn nodi casgliad y grŵp gorchwyl a gorffen ar wasanaethau cerddoriaeth yng Nghymru fod yr heriau allweddol sy'n wynebu gwasanaethau cerddoriaeth yng Nghymru yn cynnwys yr anghyfartalwch yn y ddarpariaeth bresennol a'r anghydraddoldeb cynyddol o ran cyfleoedd i gael mynediad at wasanaethau; a
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth genedlaethol ar addysg gerddorol fel bod pob plentyn yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o brofiadau cerddorol, i leihau rhwystrau ariannol i gael mynediad at y gwasanaethau hyn ac i sicrhau bod gwasanaethau o ansawdd uchel yn cael eu cynnal er gwaethaf gostyngiadau mewn cyllidebau awdurdodau lleol ac ysgolion.
Cefnogir gan:
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Lynne Neagle (Torfaen)
Cynigion a gyflwynwyd ar 2 Rhagfyr 2015
Dadl Fer
NDM5907 William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Cynllun dychwelyd blaendal ar gyfer cynwysyddion diodydd: mae'n amser i ystyried y syniad hwn unwaith eto.
NDM5904 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu ei bod yn bwysig sicrhau dyfodol cynaliadwy ar gyfer S4C fel darlledwr annibynnol iaith Gymraeg;
2. Yn croesawu ymrwymiad parhaus S4C i symud ei phencadlys allan o Gaerdydd i Gaerfyrddin; a
3. Yn credu bod y cynnig yn yr adolygiad cynhwysfawr o wariant i dorri ymhellach cyllideb adran Llywodraeth y DU dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon i S4C gan 26 y cant yn groes i'r amcanion hyn ac felly'n annerbyniol.
Yr adolygiad cynhwysfawr o wariant (Saesneg yn unig)
NDM5905 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynigion i ddefnyddio pwerau trethu newydd o dan Deddf Cymru 2014 i ganiatáu i Lywodraeth nesaf Cymru i gyflwyno ardoll ar ddiodydd llawn siwgr.
Ddeddf Cymru 2014 (Saesneg yn unig)
NDM5906 Aled Roberts (Gogledd Cymru):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu at y ffaith bod Cymru yn llusgo ar ôl gweddill y DU o ran canlyniadau addysgol, yn enwedig ym meysydd allweddol darllen, mathemateg a gwyddoniaeth;
2. Yn credu y dylai polisïau addysgol helpu i feithrin arweinyddiaeth a llywodraethiant cryf, addysgu rhagorol, dyheadau uchel a chyfleoedd i arloesi;
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i rymuso athrawon ac arweinwyr ysgolion sydd wedi dangos gallu ac arloesedd â'r rhyddid i ragori drwy:
a) lleihau maint dosbarthiadau babanod i 25 i roi mwy i amser i athrawon ymgymryd â gwaith dysgu gyda disgyblion unigol;
b) cyflwyno rhaglen penaethiaid dawnus i annog arweinwyr i ddefnyddio eu harbenigedd i gefnogi ysgolion sy'n tanberfformio;
c) sicrhau bod athrawon yn cael amser wedi'i ddiogelu i ymgymryd â datblygiad proffesiynol parhaus;
d) cyflwyno cynrychiolaeth etholedig o gyfoedion o'r proffesiwn addysgu i'r Cyngor Gweithlu Addysg i sicrhau atebolrwydd gwirioneddol; ac
e) cyflwyno system o fonitro disgyblion unigol, fel y gall athrawon ganolbwyntio ar brofiadau, cyflawniadau a deilliannau disgyblion unigol.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 3 Rhagfyr 2015
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:
NDM5904
1. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Mewnosod ar ddiwedd pwynt 3:
'ac yn galw ar Lywodraeth y DU i amddiffyn cyllid ac annibyniaeth olygyddol S4C'
2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu ymdrechion gan yr holl bleidiau a gynrychiolir yn y Cynulliad i sicrhau dyfodol cynaliadwy ar gyfer S4C.
NDM5905
1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu 'ddefnyddio pwerau trethu newydd o dan Ddeddf Cymru 2014 i ganiatáu i Lywodraeth nesaf Cymru i gyflwyno ardoll ar ddiodydd llawn siwgr' a rhoi yn ei le 'leihau effeithiau andwyol diodydd llawn siwgr ar iechyd y cyhoedd'.
NDM5906
1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i rymuso athrawon ac arweinwyr ysgolion sydd wedi dangos gallu ac arloesedd gan roi'r rhyddid iddynt ragori drwy:
a) cyflwyno rhaglen gynhwysfawr i benaethiaid sy'n cynnig datblygu proffesiynol parhaus a chymorth parhaus i'r holl benaethiaid;
b) gweithio gyda'r proffesiwn addysgu i ddatblygu a chynnig cyfres o raglenni datblygu proffesiynol parhaus sy'n darparu ar gyfer anghenion athrawon ac ysgolion;
c) sicrhau bod athrawon yn cael amser wedi'i ddiogelu i ymgymryd â datblygiad proffesiynol parhaus gorfodol; a
d) dileu'r baich biwrocrataidd ar athrawon i'w galluogi i weithredu system monitro unigol i ddisgyblion.
2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad o gapasiti addysgu ac anghenion hyfforddiant er mwyn galluogi cynllunio gweithlu cywir.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 4 Rhagfyr 2015
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:
NDM5906
1. Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:
cyflwyno datblygu proffesiynol parhaus gorfodol i athrawon.
2. Elin Jones (Ceredigion)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn credu mai buddsoddi mewn addysg gynnar yw'r ffordd fwyaf effeithiol o gynyddu cyrhaeddiad addysgol.
3. Elin Jones (Ceredigion)
Ym mhwynt 3, dileu is-bwynt a).