Cynigion a gwelliannau i'w trafod ar 10 Chwefror 2015
Cynigion a gyflwynwyd ar 3 Chwefror 2015
NDM5689 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Dadreoleiddio sy'n ymwneud â Gorchymyn Tai (Blaendaliadau Tenantiaeth) Gwybodaeth Ragnodedig) 2007 i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm rhif 6)
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Ionawr 2015 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
Gellir cael copi o'r Bil Dadreoleiddio ar wefan Senedd y DU:
http://services.parliament.uk/bills/2013-14/deregulation.html
NDM5690 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Troseddu Difrifol sy'n ymwneud â'r drosedd o gyfathrebu'n rhywiol â phlentyn i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Ionawr 2015 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
Gellir cael copi o'r Bil ar wefan Senedd y DU:
http://services.parliament.uk/bills/2014-15/seriouscrime.html
NDM5691 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Cynllunio (Cymru).
Gosodwyd Bil Cynllunio (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 6 Hydref 2015;
Gosodwyd adroddiad Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar Bil Cynllunio (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 30 Ionawr 2015.
NDM5692 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy'n deillio o'r Bil Cynllunio (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o'r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy'n codi o ganlyniad i'r Bil.
NDM5693 Huw Lewis (Merthyr Tudful)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o'r Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) (Cymru) 2015 yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Ionawr 2015.
NDM5694 Huw Lewis (Merthyr Tudful)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o'r Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Swyddogaethau Ychwanegol a Dirymu) (Cymru) 2015 yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Ionawr 2015.