Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 10 Mawrth 2010
Cynigion a gyflwynwyd ar 03 Mawrth 2010
Dadl Fer
NDM4436 Helen Mary Jones (Llanelli): Yr Hawl i Gael Cartref Gweddus
NDM4433
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar ei ymchwiliad i Ariannu Seilwaith Ffyrdd, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Ionawr 2010.
Noder: Cafodd ymateb y Dirprwy Brif Weinidog Cymru a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth ei osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Mawrth.
NDM4434
Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi â phryder y baich a roddwyd ar gartrefi a busnesau yng Nghymru yn sgil y cynnydd sy’n uwch na chwyddiant yn y Dreth Gyngor ac mewn Ardrethi Busnes.
2. Yn mynegi pryder am effaith yr Ailbrisio ardrethi busnes ar lawer o fusnesau yng Nghymru
NDM4435
Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau bod ystyriaeth lawn yn cael ei rhoi i’r canlynol cyn cau ysgol:
(a) safon yr addysg;
(b) pwysigrwydd yr ysgol honno yn y gymuned;
(c) unrhyw geisiadau cynllunio preswyl newydd yn y dyfodol a allai sicrhau ei hyfywedd i’r dyfodol; ac
2. Yn credu y dylid rhoi proses ymgynghori briodol a chadarn ar waith yn gynnar pan fydd bwriad i gau ysgol.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 05 Mawrth 2010
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM4434
1. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod y broses ailbrisio ardrethi busnes wedi cael effaith andwyol ar fusnesau bach yn benodol.
2. Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod yr adnoddau a ddarparwyd ar gyfer awdurdodau lleol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru wedi golygu bod lefelau’r dreth gyngor yng Nghymru yn is nag yng ngweddill y DU.
2. Yn nodi y bydd dros 60% o fusnesau yng Nghymru yn gweld gostyngiad yn eu biliau ardrethi o ganlyniad i’r ailbrisio ac y bydd y mwyafrif o fusnesau yng Nghymru hefyd yn derbyn rhyddhad ardrethi.
NDM4435
1. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi ei bod ar gyfartaledd wedi cymryd 32 wythnos i Lywodraeth Cynulliad benderfynu ar y deg cynnig diwethaf i ad-drefnu ysgolion, ac mewn un achos, iddi gymryd 47 wythnos.2. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod oedi cyn cael penderfyniadau Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gallu achosi llawer o ansicrwydd i fyfyrwyr, i deuluoedd ac i athrawon a bod hynny'n gwneud proses angenrheidiol ad-drefnu ysgolion hyd yn oed yn anos i'r rheini dan sylw.
3. Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ym mhwynt 1 dileu popeth cyn ‘i’r canlynol’ a rhoi yn ei le ‘Yn nodi bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn sicrhau bod ystyriaeth lawn wedi’i rhoi’
Ym mhwynt 2 dileu ‘Yn credu’ a rhoi ‘Yn cydnabod’ yn ei le.