10/06/2014 - Cynigion heb Ddyddiad Trafod

Cyhoeddwyd 09/09/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/09/2014

Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod yn y dyfodol

Cynigion a gyflwynwyd ar 10 Mehefin 2014

NNDM5525 Alun Davies (Blaenau Gwent)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau yn y Bil Dadreoleiddio, sy'n ymwneud â Phedolwyr a Chytundebau cartref-ysgol i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm rhif 3) yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Mehefin 2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).  

Gellir cael copi o'r Bil Dadreoleiddio yma: 

Dogfennau'r Bil – Bil Dadreoleiddio [HC] 2013-14 – Senedd y DU