Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod yn y Dyfodol
Cynigion a gyflwynwyd ar 10 Tachwedd 2011
NNDM4854 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried, yn ychwanegol at y darpariaethau y cyfeiriwyd atynt yn NDM4680, y darpariaethau pellach hynny a ddygwyd gerbron yn y Bil Diogelu Rhyddidau sy’n ymwneud â rhyddid gwybodaeth a diogelu data, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10Tachwedd 2011 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.(iii)
I weld copi o’r
Bil Diogelu Rhyddidau ewch i:
http://services.parliament.uk/bills/2010-11/protectionoffreedoms/documents.html