10/12/2008 - Cynigion â Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 10 Rhagfyr 2008

Cynigion a gyflwynwyd ar 3 Rhagfyr 2008

Dadl Fer

NDM4077

Janet Ryder (Gogledd Cymru): Ydi'r Llety'n Llawn o Hyd? W

NDM4078

Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Adran 19 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, yn gwneud y canlynol:

1. Mabwysiadu’r Cynllun Cyhoeddi Enghreifftiol a baratowyd ac a gymeradwywyd gan y Comisiynydd Gwybodaeth ac a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Rhagfyr 2008.

2. Nodi y bydd y Cynllun yn dod i rym ar 1 Ionawr 2009

NDM4079

Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi cynnwys rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU ar gyfer y cyfnod rhwng mis Rhagfyr 2008 a mis Rhagfyr 2009.

Rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU
h

ttp://www.commonsleader.gov.uk/output/Page2641.asp

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 05 Rhagfyr 2008

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM4079

1. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod Araith y Frenhines yn canolbwyntio’n gyfan gwbl ar fethiannau o ran rheoleiddio a pholisïau ac ar ragolygon gwleidyddol tymor byr y Prif Weinidog, ac nad yw’n rhoi sylw i ddyfodol Cymru yn y tymor hir.

2. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu na chynhwyswyd Mesur i sefydlu Dydd Gwyl Dewi fel gwyliau cenedlaethol yng Nghymru.

3. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu na chynhwyswyd Mesur i hyrwyddo a chydnabod busnesau bach a chanolig eu maint sydd wedi cyflwyno neu ymestyn eu darpariaeth o ofal plant a gweithio hyblyg.

4. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu na fydd y Mesurau a gyhoeddwyd yn Araith y Frenhines yn gwneud llawer iawn i helpu pobl drwy’r argyfwng economaidd presennol.

5. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cytuno bod Rhaglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU yn ‘rhaglen ddiflas a diddychymyg ac yn rhy wan i wneud gwahaniaeth.’

6. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu nad oes unrhyw bwerau fframwaith yn ymwneud â’r Iaith Gymraeg

7. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu nad oes unrhyw bwerau fframwaith i ddarparu safon ofynnol o wasanaeth yn y GIG.

8. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu nad oes unrhyw bwerau fframwaith i gyflwyno siarter ar hawliau tenantiaid.

9. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu nad oes unrhyw bwerau fframwaith yn ymwneud â thai fforddiadwy.

10. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu nad oes unrhyw bwerau fframwaith yn ymwneud â phlismona a charchardai.