Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 11 Ionawr 2012
Cynigion a gyflwynwyd ar 4 Ionawr 2012
Dadl Fer
NDM4884
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Chwythu’r Chwiban: A oes cyfrifoldeb moesol ar Lywodraeth Cymru i geisio gwarchod y rheini sy’n chwythu’r chwiban ym mhob agwedd ar fywyd?
NDM4886
William Graham (Dwyrain De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru
1. Yn nodi â phryder sylwadau Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr, wrth ymateb i Raglen Adnewyddu’r Economi 2010, fod gan Gymru gymysgedd wael o sgiliau.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cydnabod pwysigrwydd darpariaeth sgiliau sy’n cael ei harwain gan y galw, yn unol ag argymhellion Adolygiad Leitch; a
b) cynnal asesiad llawn o’r angen am sgiliau arbenigol yng Nghymru yn y dyfodol.
Gellir gweld Rhaglen Adnewyddu'r Economi 2010 “Adnewyddu'r Economi – Cyfeiriad Newydd” yma:
http://wales.gov.uk/docs/det/report/100705anewdirectioncy.pdf
Gellir gweld ymateb Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr i Raglen Adnewyddu’r Economi 2010 yma:
http://wales.gov.uk/docs/det/consultation/101216consreponse.pdf (Saesneg yn unig)
Gellir gweld Adolygiad Leitch yma:
http://webarchive.nationalarchives.gov.uk/+/http:/www.hm-treasury.gov.uk/independent_reviews/leitch_review/review_leitch_index.cfm (Saesneg yn unig)
NDM4887
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i gyflwyno system fandio ar gyfer ysgolion uwchradd a chynradd yng Nghymru;
2. Yn credu nad yw bandio’n rhoi darlun cyflawn o berfformiad ysgol a dylid cyfyngu ei ddefnydd i sicrhau bod unrhyw ysgol yn cael y cymorth angenrheidiol sydd ei angen arni i wella’r meysydd hynny a gaiff eu mesur gan y system fandio;
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno proses werthuso adeiladol sy’n arwain at gymorth wedi’i dargedu i ddatrys perfformiad gwael mewn ysgolion.
Cynigion a gyflwynwyd ar 17 Tachwedd 2011
NDM4885
Ken Skates (De Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.91:
Yn cytuno y caiff Ken Skates gyflwyno Bil er mwyn gweithredu'r wybodaeth cyn y balot a gyflwynwyd ar 14 Hydref 2011 o dan Reol Sefydlog 26.90.
Gellir gweld yr wybodaeth cyn y balot drwy ddilyn y linc canlynol:
http://www.assemblywales.org/cy/bus-home/bus-legislation/bill_ballots/bill_020.htm
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 6 Ionawr 2012
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM4886
1. Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu "â phryder" o bwynt 1.
2. Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ar ddiwedd pwynt 1 mewnosod "ac felly’n cydnabod pwysigrwydd y ffaith bod Sgiliau Twf Cymru ar fin ailagor a’r Adolygiad o Gymwysterau sy’n parhau fel rhan o’r ymrwymiad sylweddol i sgiliau a amlinellir yn y Rhaglen Lywodraethu".
3. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu'r £4.88 miliwn ychwanegol ar gyfer y Rhaglen Recriwtiaid Newydd a'r £3 miliwn ychwanegol ar gyfer Sgiliau Twf Cymru a gyhoeddwyd yn y gyllideb derfynol ym mis Rhagfyr 2011.
NDM4887
1. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fonitro dealltwriaeth rhieni, athrawon a Llywodraethwyr o'r system fandio o gofio’r pryderon a fynegwyd gan staff addysgu a chymryd camau esboniadol eraill os bydd angen.
2. Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod y camau y mae Awdurdodau Lleol wedi’u cymryd, drwy gonsortia, i ad-drefnu’r gwasanaethau gwella ysgolion ac yn credu y dylai cefnogaeth sy’n manteisio ar arbenigedd yr ymarferwyr blaenllaw ddod yn fodel ledled Cymru.
3. Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu mai safon yr addysgu ac arweinyddiaeth ysgolion yw’r ffactorau allweddol ar gyfer gwella ysgolion ac yn talu teyrnged i waith y proffesiwn addysgu yng Nghymru am sicrhau bod safonau wedi codi dros y degawd diwethaf.
4. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y bydd y system fandio hon, drwy ganolbwyntio ar berfformiad cyffredinol ysgolion, yn methu cydnabod perfformiadau unigol disgyblion ac adrannau yn yr ysgolion hynny.
5. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn bryderus nad yw Llywodraeth Cymru wedi llunio canllawiau penodol ar gyfer sut gall awdurdodau lleol a chanddynt nifer o ysgolion ym Mandiau 3, 4 a 5 wneud gwelliannau ymarferol.