11/02/2009 - Cynigion â Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 11 Chwefror 2009

Cynigion a gyflwynwyd ar 28 Ionawr 2009

Dadl Fer

NDM4134 Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Cyfredolrwydd Gwleidyddiaeth

NDM4135 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i: a) Sicrhau bod y gyllideb twristiaeth yn hyrwyddo strategaeth farchnata tymor hir sydd wedi’i chysylltu ag atyniadau allweddol megis Cymru fel lleoliad ar gyfer gwyliau cerdded a chwaraeon antur; b) Sicrhau ymhellach bod gweithredwyr a busnesau twristiaeth yn cael cymorth rheng flaen yn yr hinsawdd economaidd anodd iawn; a

c) Cymryd camau i wyrdroi’r ffaith bod cyfran Cymru o’r diwydiant twristiaeth wedi disgyn yn genedlaethol ac yn rhyngwladol dros y blynyddoedd diwethaf.

NDM4137 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.3, yn ethol Janice Gregory (Llafur), Leanne Wood (Plaid Cymru), Darren Millar (Ceidwadwyr), Kirsty Williams (Democratiaid Rhyddfrydol), Trish Law (Annibynnol) fel Aelodau o’r Pwyllgor Craffu ar Waith Prif Weinidog Cymru.

NDM4138 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.3 yn ethol Janet Ryder (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Archwilio yn lle Chris Franks (Plaid Cymru).

NDM4139 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.3 yn ethol Bethan Jenkins (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant yn lle Nerys Evans (Plaid Cymru).

NDM4140 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.3 yn ethol Nerys Evans (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Menter a Dysgu yn lle Janet Ryder (Plaid Cymru).

NDM4141 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.3 yn ethol Janet Ryder (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Cyfle Cyfartal yn lle Bethan Jenkins (Plaid Cymru).

NDM4142 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.3 yn ethol Rhodri Glyn Thomas (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol yn lle Nerys Evans (Plaid Cymru).

NDM4143 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.3 yn ethol Mohammad Asghar (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 1 yn lle Janet Ryder (Plaid Cymru).

NDM4144 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.3 yn ethol Gareth Jones (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 2 yn lle Rhodri Glyn Thomas (Plaid Cymru).

NDM4136 Mick Bates (Sir Drefaldwyn)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

yn nodi’r adroddiad ar ymchwiliad y Pwyllgor Cynaliadwyedd i Ddeiseb P-03-63: Gwahardd Bagiau Plastig, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Tachwedd 2008.

Nodyn: gosodwyd ymateb y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Tai a Chynaliadwyedd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Chwefror 2009.

NDM4145 Janice Gregory (Ogwr)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant: Cam-drin Domestig yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Rhagfyr 2008.

Nodyn: Gosdwyd ymateb y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol i’r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Chwefror 2009

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 06 Chwefror 2009

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM4135

1. Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Dileu pwynt c ac yn ei le rhoi:

Parhau â’i dull cydweithredol o weithredu, fel y tystia’r Uwchgynadleddau Twristiaeth, er mwyn cynyddu i’r eithaf y cyfleoedd economaidd sydd ar gael i’r diwydiant twristiaeth yng Nghymru.

2. Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Parhau i gefnogi’r gwaith marchnata a hyrwyddo effeithiol y mae Croeso Cymru yn ei gyflawni yn genedlaethol a rhyngwladol.

3. Peter Black (Gorllewin De Cymru):

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Mynd i’r afael â’r methiannau, yn ôl pob golwg, yn y strategaethau hysbysebu twristiaeth ers i Fwrdd Croeso Cymru gael ei ddiddymu.