Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 11 Mehefin 2008
Cynigion a gyflwynwyd ar 4 Mai 2008
Dadl Fer
NDM3956
Janet Ryder (Gogledd Cymru): Pŵer i’r Bobl
NDM3953
Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.3, yn ethol Angela Burns (Ceidwadwyr) yn aelod o’r Pwyllgor ar y Mesur Arfaethedig Bwyta'n Iach mewn Ysgolion yn lle Alun Cairns (Ceidwadwyr).
NDM3919
Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 22.50:
Yn cytuno y caiff Peter Black gyflwyno Gorchymyn arfaethedig, i weithredu’r Gorchymyn arfaethedig amlinellol a ddarparwyd ar 14 Chwefror 2008 dan Reol Sefydlog 22.48, a Memorandwm Esboniadol.
Gellir gweld y Gorchymyn arfaethedig amlinellol trwy ymweld â’r ddolen ganlynol:h
ttp://www.assemblywales.org/bus-home/bus-legislation/bus-leg-measures/business-legislative-ballots/busnes-gorchmynion-cymhwysedd-deddfwriaetholNDM3954
William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi â phryder bod Cymru wedi cyflawni’r twf economaidd isaf o holl wledydd a rhanbarthau’r DU rhwng 1997 a 2006.
NDM3955
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1 Yn nodi â phryder:
a) bod nifer y gorchmynion adfeddiannu yng Nghymru wedi codi 26% er 2007
b) y gallai cyfraddau morgais uwch, y wasgfa gredyd a dyled gynyddol defnyddwyr arwain at gynnydd pellach mewn adfeddiannu yng Nghymru.
2 Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i helpu i leihau nifer yr achosion adfeddiannu posibl drwy gefnogi:
a) cynlluniau cyngor ar ddyled ac achub morgeisi; a
b) datblygu protocol a fyddai’n mynnu bod llys yn fodlon bod y rheini sy’n rhoi benthyg a’r rheini sy’n cael benthyg wedi cymryd y camau perthnasol cyn dyfarnu adfeddiannu.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 5 Mehefin 2008
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM3954
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:
Yn nodi bod sylfaen sgiliau dda ac amrywiol yn allweddol er mwyn codi twf economaidd, felly’n gresynu wrth y tangyllido enfawr yng nghyswllt addysg ar gyfer pob oed ledled Cymru.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 6 Mehefin 2008
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM3954
1. Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Yn lle “nodi â phryder” rhoi “nodi’r honiad”.
2. Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod bod Cymru, mewn gwirionedd, yn ystod y cyfnod rhwng 1997 a 2006 wedi cyflawni cyfradd twf economaidd sy’n fwy na 2% y flwyddyn mewn termau real, sy’n gyflymach na’r hyn a gyflawnwyd o dan gyfnod 9 mlynedd blaenorol Llywodraeth geidwadol”.
3. Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
“Yn llongyfarch y gweithredu pendant gan Lywodraeth y Cynulliad o dan gytundeb Cymru’n Un i gyrraedd lefel gweithgarwch economaidd o 80% a sicrhau llwyddiant o gyllid Cydgyfeirio.”