Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 11 Mehefin 2014
Cynigion a gyflwynwyd ar 4 Mehefin 2014
Dadl Fer
NDM5523 Julie Morgan (Gogledd Caerdydd)
Datganoli: Ysgogwr Arloesedd
Sut y mae datganoli wedi rhoi'r cyfle i ddatblygu mesurau arloesol yng Nghymru a sut y mae elfennau arloesol o'r fath wedi dylanwadu ar weddill y DU.
NDM5522 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi cynnwys rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU ar gyfer 2014/2015.
Rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU:
https://www.gov.uk/government/topical-events/queens-speech-2014
NDM5524 Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cefnogi Wythnos Gofalwyr 2014 sy'n cydnabod ac yn dathlu cyfraniad mwy na 370,000 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru, sy'n darparu cymorth amhrisiadwy i deulu a ffrindiau.
2. Yn nodi'r dystiolaeth gynyddol o rôl hynod heriol gofalu, a all gael effaith andwyol ar iechyd, cyfleoedd cyflogaeth, gweithgarwch cymdeithasol a hamdden y rhai sy'n rhoi gofal yn ddi-dâl.
3. Yn nodi canfyddiadau adroddiad ‘Prepared to Care?’ 2013 a ganfu nad oedd 75 y cant o ofalwyr yn barod am rôl ofalu ac nad oedd 81 y cant yn ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael, sy'n aml yn golygu bod gofalwyr yn teimlo'n agored i niwed ac yn ynysig.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cefnogi ymgyrch ymwybyddiaeth i annog hunan-nodi a mynediad i gymorth a gwella dealltwriaeth y cyhoedd o rôl gofalwyr;
b) datblygu gwybodaeth i gyflogwyr gynorthwyo gweithwyr sy'n ceisio cael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u rolau gofalu; ac
c) gweithio gyda darparwyr addysg i gynnig darpariaeth mwy hyblyg i alluogi gofalwyr o bob oed i gael mynediad i gyfleoedd ar gyfer addysg a hyfforddiant.
Gellir gweld yr adroddiad 'Prepared to Care?' yma: http://www.carersweek.org/media/k2/attachments/Prepared_to_Care_FINAL.pdf
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 5 Mehefin 2014
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM5522
1. Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod y model datganoli treth incwm a gynigir ar gyfer Cymru, ym Mil Cymru, yn cael ei gyfyngu gan yr hyn a elwir yn fecanwaith “cyd-gerdded”.
2. Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y diffyg cynigion yn rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU i symud ymlaen ag unrhyw feysydd datganoli pellach a argymhellwyd gan adroddiad y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru.
3. Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylai rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU fod wedi cynnwys deddfwriaeth i ail-gydbwyso economi’r DU mewn modd sy’n mynd i’r afael ag anghydraddoldebau rhanbarthol ac yn hyrwyddo tegwch economaidd.
4. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r ffaith y bydd rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU yn parhau i adeiladu economi gryfach a chymdeithas decach.
5. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r cyhoeddiad yn rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU ar ofal plant di-dreth a fydd yn golygu y bydd oddeutu 83,600 o deuluoedd yng Nghymru yn cael budd o £2,000 oddi ar gost eu gofal plant.
6. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r ffaith y bydd y Bil Troseddau Difrifol, yn dilyn yr ymgyrch gan Aelod Seneddol Ceredigion, y Democrat Rhyddfrydol Cymreig Mark Williams, yn cynnwys darpariaeth i nodi’n glir fod creulondeb sy’n debygol o achosi niwed seicolegol i blentyn yn drosedd.
7. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r diwygiadau pensiwn chwyldroadol a gynigiwyd gan Weinidog y Democratiaid Rhyddfrydol Steve Webb sydd i’w cynnwys yn y Bil Pensiynau Preifat, a fydd yn rhoi rhyddid a diogelwch i bobl wedi ymddeol.
8. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r ffaith y bydd y Draft Governance of National Parks (England) & the Broads Bill yn cynnwys darpariaethau ar gyfer etholiadau uniongyrchol ar gyfer awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn Lloegr, yn dilyn ymgyrchu gan Aelod Seneddol Brycheiniog a Sir Faesyfed, y Democrat Rhyddfrydol Roger Williams, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi diwygiadau tebyg ar waith yng Nghymru.
NDM5524
1. Elin Jones (Ceredigion)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn nodi bod 11,000 o blant yn ofalwyr.
2. Elin Jones (Ceredigion)
Cynnwys pwynt 4 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn nodi bod yr adroddiad ‘Prepared to Care?’ yn nodi’r trafferthion ariannol y mae gofalwyr yn eu hwynebu ac yn gresynu fod newidiadau i hawliau nawdd cymdeithasol wedi effeithio’n niweidiol ar ofalwyr a’u teuluoedd.
3. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi pwysigrwydd seibiant i ofalwyr ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i sefydlu hawl gofalwyr i seibiant.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 6 Mehefin 2014
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM5522
1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu ymrwymiad parhaus Llywodraeth y DU, fel yr amlinellir yn y rhaglen ddeddfwriaethol, i adfer lles ariannol yn y DU.
2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y bydd y Biliau yn rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU yn sicrhau dyfodol gwell a mwy disglair i bobl Cymru.
3. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r ffaith y bydd rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU yn rhoi mesurau allweddol ar waith i gynyddu ymhellach y lwfans personol i £10,500, gan adeiladu ar yr ymrwymiad ym maniffesto’r Democratiaid Rhyddfrydol ar gyfer etholiad cyffredinol 2010 i gynyddu trothwy’r dreth incwm i £10,000.