11/12/2013 - Cynigion a Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/06/2014

Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 11 Rhagfyr 2013

Cynigion a gyflwynwyd ar 4 Rhagfyr 2013

Dadl Fer

NDM5384 Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): E-sigaréts: Faint o reoleiddio sydd ei angen arnom?

NDM5385 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru i gynnal dadl ar y celfyddydau yn ystod y Cynulliad hwn.

2. Yn nodi:

a) pwysigrwydd cynhenid y celfyddydau a diwylliant i hunaniaeth Cymru a lles personol ei dinasyddion;

b) adroddiad Cyngor Celfyddydau Cymru “Adroddiad annibynnol ar gyfer Llywodraeth Cymru ar y Celfyddydau mewn Addysg yn Ysgolion Cymru” ar rôl y celfyddydau o ran datblygu llythrennedd a rhifedd; a

c) bod ymchwil VisitBritain yn nodi bod mwy o ymwelwyr tramor yn mynd i'r theatr, sioeau cerdd, opera neu fale, nag i ddigwyddiad chwaraeon byw, pan fyddant yn ymweld â Phrydain.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i esbonio sut y caiff cyllid ar gyfer y celfyddydau ei ddiogelu o fewn y cyllidebau addysg a llywodraeth leol.

Mae adroddiad Cyngor Celfyddydau Cymru ar gael yn:

http://cymru.gov.uk/docs/dcells/publications/130920-arts-in-education-cy.pdf

NDM5386 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r cynnydd diweddar mewn prisiau ynni ac yn gresynu at yr effaith y bydd hyn yn ei chael ar bob aelwyd yng Nghymru, yn enwedig y rhai sy'n dlawd o ran tanwydd na allant fanteisio ar fargeinion ynni tanwydd deuol ffafriol.

2. Yn gresynu bod y defnydd o fanciau bwyd wedi bron â threblu dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda mwyafrif y rhai sy'n troi at fanciau bwyd yn deuluoedd oedran gweithio, rhai oherwydd cyflog isel.

3. Yn nodi bod adroddiad diweddar Cartrefi Cymunedol Cymru ar effaith y dreth ystafell wely wedi canfod y disgwylir i ôl-ddyledion yn sgîl y dreth ystafell wely fod dros £2 filiwn erbyn mis Ebrill nesaf.

4. Yn nodi bod dros 41,000 yn fwy o bobl o hyd yn ddi-waith nawr nag a oedd cyn i'r argyfwng economaidd ddechrau.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu a diwygio ei strategaeth yn erbyn tlodi yng ngoleuni'r argyfwng cynyddol a wynebir gan bobl yn sgîl caledi, newidiadau i fudd-daliadau a chynnydd yng nghostau byw.

Mae adroddiad Cartrefi Cymunedol Cymru ar gael yn:

http://chcymru.org.uk/en/news/latest-news/chc-news/bedroom-tax-will-mean-1000-fewer-homes-in-wales

NDM5387 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod rôl bwysig Swyddfa Archwilio Cymru o ran:

a) darparu gwaith craffu o safon sy’n annibynnol a chynhwysfawr ar weithgarwch a gwariant y Llywodraeth;

b) cynorthwyo gwasanaethau cyhoeddus effeithiol ac atebol;

c) rhannu arfer da a nodi gwelliannau i’r broses o gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus; a

d) helpu i sicrhau'r gwerth gorau am arian i bobl Cymru.

2. Yn nodi canfyddiadau adroddiadau olynol a gyhoeddwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru, sy'n amlygu methiannau sylweddol o ran trefniadau llywodraethu a chyflenwi gwasanaethau cyhoeddus allweddol, gan gynnwys AWEMA; Bwrdd Draenio Mewnol Gwastadeddau Cil-y-coed a Gwynllwg; Gwesty River Lodge; Gofal Heb ei Drefnu; Cyllid Addysg Uwch a Chyllid y GIG.

3. Yn nodi'r ymchwiliad parhaus i Gronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio, penderfyniad y Gweinidog i ddiddymu'r corff hwn a dychwelyd arian Ewropeaidd i WEFO, a'r effaith ddilynol ar nifer o brosiectau adfywio sy'n ceisio cyllid gan CBCA.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cynnal adolygiad trylwyr o'r holl gyllid allanol i adfer hyder cyhoeddus a hyder buddsoddwyr yng ngallu Llywodraeth Cymru i fonitro a rheoleiddio cyllid Llywodraeth Cymru;

b) cyhoeddi’r gyfundrefn monitro sydd yn ei lle o ran ei pholisi rheoli grantiau ac adrodd yn flynyddol i'r Cynulliad Cenedlaethol ar ei chanlyniadau; a

c) datblygu gweithdrefn gadarn a thryloyw i fynd i'r afael yn fwy effeithiol â methiannau sylweddol a phenodol ym mholisi Llywodraeth Cymru a amlygwyd gan adroddiadau Swyddfa Archwilio Cymru.

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 6 Rhagfyr 2013

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM5385

1. Elin Jones (Ceredigion)

Cynnwys is-bwynt 2b) newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

pwysigrwydd y Celfyddydau wrth hybu defnydd o’r Gymraeg;

2. Elin Jones (Ceredigion)

Cynnwys is-bwynt 2c) newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

bod adroddiad Cyngor Celfyddydau Cymru yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru archwilio dewisiadau cyllido gyda’r nod o sicrhau bod yna ddarpariaeth gyfartal ar gael i bobl ifanc ym mhob math o gelf, a bod pobl ifanc eithriadol o dalentog yn gallu dilyn a meithrin eu talent;

3. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag amgueddfeydd, orielau a chasgliadau eraill o gelf a threftadaeth yng Nghymru er mwyn sicrhau y gall cyfleusterau eraill yng Nghymru gael benthyg eitemau nad ydynt yn cael eu harddangos.

4. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cyfeiriad strategol i’r Cyngor Celfyddydau fuddsoddi mewn gwyliau llai ac artistiaid, cerddorion ac ysgrifenwyr addawol, a sicrhau bod digwyddiadau celfyddydol a diwylliannol yn symud tuag at gynlluniau busnes cynaliadwy.

NDM5386

1. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnwys ar ddiwedd pwynt 1:

‘, a’r angen i roi sylw i effaith hyn gyda dealltwriaeth glir o’r canlyniadau o ran prisiau, buddsoddiad, ymateb y diwydiant a defnyddwyr’

2. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn nodi bod banciau bwyd sydd wedi agor yn ddiweddar ledled Cymru yn helpu i fodloni anghenion y garfan gudd o bobl newynog, ac yn cydnabod gwaith pwysig banciau bwyd a’u cyfraniad at fywydau pobl mewn argyfwng.

3. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau ar frys i ddarparu ateb marchnad gyfan i’r argyfwng mewn cyflenwad tai ers datganoli.

4. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

Yn croesawu’r gostyngiad yn nifer y bobl nad ydynt mewn cyflogaeth yng Nghymru ers 2010, ond yn cydnabod bod gan Gymru lawer o ffordd i fynd o hyd o’i gymharu â gweddill y DU.

5. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu a diwygio ei strategaeth yn erbyn tlodi ar sail cyd-gynhyrchu er mwyn mynd i’r afael â’r achosion o dlodi yng Nghymru sydd wedi’u gwreiddio’n ddwfn, y bwlch tlodi cynyddol, a’r symudedd cymdeithasol sydd wedi peidio ers datganoli.

6. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddechrau'r cynnig ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn croesawu bod economi’r DU wedi tyfu 0.8% yn nhrydydd chwarter 2013 a bod y rhagolwg ar gyfer twf CMC y DU yn 2013 wedi codi o 0.6% i 1.4%.

7. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth y DU am ddiwygiadau a fydd yn golygu y bydd cartrefi’n arbed £50 y flwyddyn ar gyfartaledd ar eu biliau ynni a bod y dreth ar danwydd yn cael ei rhewi am weddill y Senedd hon.

8. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn croesawu polisi’r Democratiaid Rhyddfrydol i godi trothwy’r dreth incwm  i £10,000, a weithredwyd gan Lywodraeth y DU, sy’n golygu, o fis Ebrill 2014,  y bydd dros 1.1 miliwn o bobl yng Nghymru yn cael dros £700 o doriad mewn treth ac na fydd 106,000 o weithwyr ar incwm isel yng Nghymru yn gorfod talu’r dreth incwm o gwbl.

9. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 4 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn gresynu wrth fethiant y cymdeithasau tai a Llywodraeth Cymru i baratoi ar gyfer newidiadau yn y system fudd-daliadau, er gwaethaf dwy flynedd o rybudd, a methiant y llywodraethau Llafur a Cheidwadol blaenorol i adeiladu digon o gartrefi, gan olygu bod 1.5 miliwn o gartrefi wedi’u colli.

10. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys ar ddiwedd pwynt 4:

‘ac yn gresynu bod Cymru yn dal ar ei hôl hi y tu ôl i weddill y DU gyda chyfradd ddiweithdra o 7.8% o gymharu â chyfartaledd o 7.1% yn y DU’.

11. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ym mhwynt 5, dileu ‘yng ngoleuni’r argyfwng cynyddol a wynebir gan bobl yn sgîl caledi, newidiadau i fudd-daliadau a chynnydd yng nghostau byw’ a rhoi yn ei le ‘er mwyn mynd i’r afael â thlodi cynyddol, sydd wedi’i wreiddio’n ddwfn, mewn cymunedau yng Nghymru’.

NDM5387

1. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Yn is-bwynt 1c) ar ôl ‘cyhoeddus’ rhoi ‘gan gynnwys drwy gyfrwng gwaith ei Chyfnewidfa Arfer Da’.

2. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ym mhwynt 2, dileu popeth ar ôl ‘gwasanaethau cyhoeddus allweddol’.

3. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Dileu is-bwynt 4a) a rhoi yn ei le:

adolygu’r cyllid a ddarperir ganddi i gyrff cyhoeddus Cymru a sefydliadau eraill er mwyn sicrhau bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus ei fod yn cael ei reoli, ei fonitro a’i werthuso’n effeithiol;

4. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Yn is-bwynt 4c) dileu ‘ym mholisi Llywodraeth Cymru’.

5. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu’r cydweithio rhwng Swyddfa Archwilio Cymru ac arolygiaethau eraill ac yn nodi y gallai hyn wella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd eu gwaith.