Cynigion a gwelliannau i'w trafod ar 12 Ionawr 2015
Cynigion a gyflwynwyd ar 5 Ionawr 2015
NDM5908 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Diwygio Lles a Gwaith, sy'n ymwneud â thlodi plant a symudedd cymdeithasol, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Hydref 2015 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i) a (iii).
Y Bil Diwygio Lles a Gwaith (Saesneg yn unig)
NDM5909 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Adroddiad Blynyddol Effaith a Chyrhaeddiad 2014-15 Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Rhagfyr 2015.
NDM5910 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) (Cymru) 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Tachwedd 2015 .
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 7 Ionawr 2016
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:
NDM5909
1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi cyfeiriadau at hawliau pobl hŷn yn yr adroddiad effaith a chyrhaeddiad ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r Comisiynydd Pobl Hŷn i gyflwyno deddfwriaeth i amddiffyn a hyrwyddo hawliau pobl hŷn.