12/03/2014 - Cynigion a Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/06/2014

Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 12 Mawrth 2014

Cynigion a gyflwynwyd ar 5 Mawrth 2014

Dadl Fer

NDM5447 Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Adeiladwch hi ac fe ddôn nhw?

Yr achos dros reilffordd rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth

NDM5448 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd gwasanaethau bysiau i bobl Cymru.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau sefydlogrwydd ar gyfer y diwydiant bysiau a theithwyr.

3. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i ddiogelu gwasanaethau bysiau yng Nghymru.

NDM5449 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod bod y Gymraeg yn sbarduno'r economi a bod ei ffyniant tymor hir fel iaith gymunedol yn dibynnu ar dwf economaidd rhanbarthol a lleol cryf.

2. Yn cydnabod bod gwariant gan Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus yn gallu dylanwadu’n drwm ar yr iaith.

3. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid ddatblygu polisïau i gefnogi’r iaith a hyrwyddo ei budd economaidd ar sail ardaloedd penodedig.

NDM5450 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod trafnidiaeth gyhoeddus ddiogel a fforddiadwy yn allweddol i alluogi pobl ifanc i gael gafael ar waith, addysg, hyfforddiant a phrentisiaethau.

2. Yn gresynu bod fforddiadwyedd trafnidiaeth gyhoeddus yn rhwystr sylweddol i weithwyr rhan-amser ac i ddewisiadau ôl-16 pobl ifanc.

3. Yn croesawu'r camau a gymerir gan rai awdurdodau lleol yng Nghymru i gyflwyno cynllun teithio rhatach i bobl ifanc ond yn gresynu bod amrywioldeb sylweddol mewn consesiynau yn arwain at loteri cod post o ran trafnidiaeth fforddiadwy i deithwyr ifanc.

4. Yn cydnabod cyflawniadau cynlluniau trafnidiaeth gymunedol gan gynnwys Bwcabus a Grass Routes o ran darparu trafnidiaeth hygyrch a hyblyg i gymunedau lleol.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gweithio gyda gweithredwyr bysiau i gyflwyno cynllun teithio rhatach cenedlaethol i bobl ifanc drwy gyfradd ‘teithwyr ifanc’ newydd i bobl ifanc 16-18 oed a myfyrwyr;

b) archwilio dichonoldeb tocyn tymor i weithwyr rhan-amser;

c) archwilio'r potensial i ymestyn cynlluniau trafnidiaeth gymunedol fel Bwcabus a Grass Routes mewn ardaloedd gwledig; a

d) archwilio ffyrdd o ddatblygu rhwydwaith carbon isel o drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru.

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 6 Mawrth 2014

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM5448

1. Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn croesawu argymhelliad y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru i ddatganoli pŵer rheoleiddio dros fysiau i Lywodraeth Cymru.

2. Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn cydnabod bod angen Comisiynydd Traffig penodol i Gymru.

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 7 Mawrth 2014

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM5448

1. Lesley Griffiths (Wrecsam)

Ym mhwynt 3, ar ôl ‘Lywodraeth Cymru’ cynnwys ‘i gydweithio â’r diwydiant bysiau a phartneriaid eraill’

NDM5449

1. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnwys asesiad o effaith ei pholisïau ar y Gymraeg yn ei Chanllawiau ar yr Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb.

NDM5450

1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu’r ffaith fod gweithredwyr bysiau wrthi’n ystyried cynlluniau teithio rhatach i bobl ifanc a myfyrwyr.