12/05/2015 - Cynigion â Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 05/05/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/05/2015

Cynigion a gwelliannau i'w trafod ar 12 Mai 2015

Cynigion a gyflwynwyd ar 5 Mai 2015

NDM5753 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi'r Cynllun Cyflawni ar gyfer Clefyd yr Afu, fframwaith tan 2020 ar gyfer GIG Cymru i wella gwasanaethau clefyd yr afu.

Mae'r Cynllun Cyflawni ar gyfer Clefyd yr Afu i'w weld yn:

http://gov.wales/docs/dhss/consultation/141111livercy.pdf

NDM5754 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o'r Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2015 yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Mawrth 2015.

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 6 Mai 2015

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:

NDM5753

1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at y ffaith y gallai'r broses o gyflwyno cynllun cyflenwi clefyd yr iau gael ei llesteirio gan yr heriau ariannol y mae byrddau iechyd lleol yn eu hwynebu o ganlyniad i'r toriadau cyllidebol mwyaf erioed gan Lywodraeth Cymru.

2. Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi prisiau uned sylfaenol ar gyfer alcohol ar waith cyn gynted ag y bo modd.