Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 12 Mehefin 2012
Cynigion a gyflwynwyd ar 1 Mehefin 2012
NDM5005 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi’r Strategaeth Iechyd Meddwl ddrafft, Law yn Llaw at Iechyd Meddwl, sy’n destun ymgynghori cyhoeddus ar hyn o bryd.
Gallwch weld Law yn Llaw at Iechyd Meddwl drwy ddilyn y ddolen ganlynol:
http://wales.gov.uk/consultations/healthsocialcare/mhealth/?skip=1&lang=cy
NDM5006 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r Papur Gwyrdd ar drefniadau etholiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru i’r dyfodol: a
2. Yn credu na ddylai Llywodraeth y DU gyflwyno unrhyw newidiadau i’r trefniadau etholiadol presennol heb gydsyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gallwch weld y Papur Gwyrdd ar drefniadau etholiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru i’r dyfodol drwy ddilyn y ddolen ganlynol:
http://www.swyddfa.cymru.gov.uk/files/2012/05/Papur-Gwyrdd-ar-drefniadau-etholiadol-Cynulliad-Cenedlaethol-Cymru-ir-dyfodol2.pdf
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 7 Mehefin 2012
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM5005
1. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno toriadau termau real i'r gyllideb iechyd yn y flwyddyn ariannol bresennol, ac yn mynegi pryder y gallai'r rhain amharu ar weithredu Strategaeth Iechyd Meddwl.
2. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod y manteision economaidd posibl y byddai Strategaeth Iechyd Meddwl effeithiol yn eu cynnig i Gymru.
3. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i ddatblygu data gwaelodlin priodol a dangosyddion perfformiad allweddol i sicrhau y gellir mesur unrhyw gynnydd yn erbyn y Strategaeth Iechyd Meddwl.
4. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod yr angen i holl Weinidogion Cymru ymwneud yn llawn â’r broses o gyflwyno’r Strategaeth Iechyd Meddwl, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu prosesau cadarn i sicrhau bod Gweinidogion yn atebol am eu cyfraniad tuag at wella lles ac iechyd meddwl yng Nghymru.
5. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod y gall cleifion â chyflyrau corfforol hirdymor fod â phroblemau iechyd meddwl hefyd;
6. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod y gwaith ymchwil a wnaed gan y King’s Fund sy’n nodi y gall problemau iechyd corfforol a meddyliol sy'n cydfodoli arwain at gyfraddau uwch o bobl yn cael eu hanfon i’r ysbyty, mwy o ddefnydd ar wasanaethau cleifion allanol, a dulliau hunan-reoli llai effeithiol gan gleifion.
7. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud yn siwr bod y cysylltiad rhwng problemau iechyd meddwl ac anhwylderau corfforol hirdymor yn cael ei gynnwys yn strategaeth Law yn Llaw at Iechyd Meddwl, ac yr anogir cydweithio agosach rhwng gweithwyr proffesiynol sy’n gyfrifol am iechyd meddwl a chorfforol cleifion er mwyn gwella canlyniadau.
NDM5006
1. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi mai Ysgrifennydd Gwladol Cymru sydd â'r pwer, o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, i wneud darpariaethau ynghylch etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
2. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod Llywodraeth Lafur flaenorol y DU wedi gwneud newidiadau i drefniadau etholiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru heb geisio caniatâd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
3. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu na ddylid gwneud unrhyw newidiadau i drefniadau etholiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru oni bai yr eir ati i gynyddu cymesuredd.
4. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r bwriad i ganiatáu i ymgeiswyr sefyll mewn etholaeth ac mewn rhanbarth yn etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol.