Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 12 Hydref 2011
Cynigion a gyflwynwyd ar 5 Hydref 2011
Dadl Fer
NDM4823 Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Busnesau Bach, Effaith Fawr
NDM4820 Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wrth weithredu o dan Reol Sefydlog Rhif 1.7, yn ethol David Melding AC, Mike Hedges AC, Peter Black AC a Jocelyn Davies AC, yn Ymddiriedolwyr i gynllun pensiwn Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn lle Rosemary Butler AC, John Griffiths AC, yr Arglwydd German a’r Arglwydd Wigley.
NDM4821 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) Sefydlu ‘Cynllun Canser Cenedlaethol’; a
b) Penodi cydgysylltydd canser annibynnol i oruchwylio gweithredu’r ‘Cynllun Canser Cenedlaethol’ hwnnw a chodi ymwybyddiaeth o ganser, cydgysylltu gwasanaethau a hyrwyddo mesurau ataliol.
NDM4822 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu wrth y toriad o 41 y cant yng nghyllideb cyfalaf Llywodraeth Cymru ac effaith andwyol hynny ar y sector adeiladu; a
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i hybu’r economi drwy:
a) Creu cronfa buddsoddi mewn seilwaith;
b) Defnyddio pwerau benthyg Awdurdodau Lleol;
c) Gweithredu i helpu i gynyddu canran y cwmnïau yng Nghymru sy’n ennill tendrau caffael cyhoeddus; a
d) Chwilio am ffyrdd arloesol o godi cyfalaf ar gyfer prosiectau seilwaith ar wahân i Fenter Cyllid Preifat.
NDM4824 Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) Sefydlu Cynllun Canser cynhwysfawr sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn er mwyn:
i) pennu targedau clir i sicrhau bod y triniaethau gorau sydd ar gael ar gael i bawb yng Nghymru, ni waeth pa fath o ganser sydd ganddynt na lle maent yn byw;
ii) datblygu cynlluniau clir ar gyfer canfod canser yn gynharach yng Nghymru.
iii) sicrhau bod cefnogaeth holistaidd yn cael ei darparu i’r rheini sy’n byw â chanser a’u teuluoedd o’r funud maent yn amau bod ganddynt ganser, yn ystod eu triniaeth ac ar ôl y driniaeth honno, yn ogystal ag ar ddiwedd oes;
b) Sefydlu Cronfa Cyffuriau Canser; ac
c) Datblygu cynllun i gefnogi’r rheini sy’n goroesi canser.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 6 Hydref 2011
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM4821
1. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys ar ddechrau pwynt 1:
‘Yn nodi cymeradwyaeth unfrydol y Cynulliad ar 5 Hydref 2011 i lunio a gweithredu Cynllun Canser Cenedlaethol ac felly’.
NDM4824
1. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys ar ddechrau pwynt 1:
‘Yn nodi cymeradwyaeth unfrydol y Cynulliad ar 5 Hydref 2011 i lunio a gweithredu Cynllun Canser Cenedlaethol ac felly’.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 7 Hydref 2011
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM4821
1. Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt b) a rhoi yn ei le:
Adolygu pa gymorth sydd angen ei roi ar lefel Cymru gyfan i gynorthwyo GIG Cymru i fynd i’r afael â chanser
NDM4822
1. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le “Yn nodi’r gostyngiad o 41 y cant yng nghyllideb cyfalaf Llywodraeth Cymru; ac”
2. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ym mhwynt 2d dileu “ar wahân i Fenter Cyllid Preifat” a rhoi yn ei le “yn cynnwys Banc Buddsoddi Ewrop”.
3. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:
Bidio i leoli’r Banc Buddsoddi Gwyrdd yng Nghaerdydd
4. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu cyn lleied o gontractau Olympaidd a enillwyd o dan y llywodraeth “Cymru’n Un" flaenorol, a allai fod wedi bod o fudd i’r sector adeiladu.
5. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Cyflwyno proses ariannu drwy gynyddrannau treth er mwyn galluogi awdurdodau lleol i godi arian cyfalaf ar gyfer prosiectau seilwaith.
6. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Sefydlu cronfa arloesedd i gynyddu nifer y patentau a sefydlu cynlluniau mentora busnes.
NDM4824
1. Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwyntiau b.) ac c.) a rhoi yn eu lle:
“sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael ar driniaethau canser diogel ac effeithiol mewn modd teg a phrydlon.”