13/06/2012 - Cynigion â Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 13 Mehefin 2012

Cynigion a gyflwynwyd ar 1 Mehefin 2012

Dadl fer

NDM5004 Sandy Mewies (Delyn): Treftadaeth – ein gorffennol a’n dyfodol

Sicrhau bod cymunedau lleol yng Nghymru yn gallu chwarae rhan yn y gwaith o ddiogelu eu treftadaeth nawr ac yn y dyfodol.

NDM5003 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn croesawu’r syniadau ar gyfer dod ag adnoddau ynghyd a chydweithio i gryfhau economïau lleol fel y nodir yn ‘Cynllun Gwyrdd i’r Cymoedd'.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar ffyrdd o ddatblygu rhaglen benodol i adfywio cymunedau a thrwy hynny sicrhau bod ganddynt ddyfodol economaidd ffyniannus a chynaliadwy.

Mae'r ‘Cynllun Gwyrdd i’r Cymoedd’ ar gael drwy fynd i:
http://www.plaidcymru.org/cynllun-gwyrdd-ir-cymoedd/?force=2

NDM5007 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gresynu bod Llywodraethau olynol Cymru wedi methu â manteisio i’r eithaf ar botensial cronfeydd yr UE;

2. Yn mynegi pryder nad oes gwersi wedi cael eu dysgu yn sgîl methiant cylchoedd gwariant blaenorol arian Ewropeaidd ac nad yw Llywodraeth Cymru erioed wedi comisiynu adolygiad llawn o brosiectau blaenorol; ac

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda phrifysgolion Cymru a sefydliadau yn y sector gwirfoddol a’r sector preifat i ddatblygu achos busnes i sicrhau y ceir yr effaith fwyaf bosibl o brosiectau Gwariant Ewropeaidd yn y dyfodol yng Nghymru.

NDM5008 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar ei Ymchwiliad ar yr achos busnes dros un corff amgylcheddol a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Ebrill 2012.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru ar 1 Mehefin 2012

Cynigion a gyflwynwyd ar 12 Mehefin 2012

NDM5010 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Rebecca Evans (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn lle Keith Davies (Llafur).

NDM5011 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Keith Davies (Llafur) yn aelod o Bwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn lle Rebecca Evans (Llafur).

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 7 Mehefin 2012

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau canlynol isod i gynigion:

NDM5007

1. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:

‘Yn nodi’r modd y mae Llywodraethau olynol Cymru, awdurdodau lleol, y sector preifat, Addysg Uwch a’r trydydd sector wedi defnyddio cronfeydd yr UE.’

2. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Dileu pwynt 2 ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn.

3. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ym mhwynt 3, dileu popeth ar ôl y gair ‘ddatblygu’, gan roi ‘strategaeth arloesi a fydd yn sail i raglen Horizon 2020 yr UE ar gyfer y cylch cyllido nesaf', yn ei le.

Gellir cael gwybodaeth am raglen Horizon 2020 yr UE drwy fynd i: http://ec.europa.eu/research/horizon2020/index_en.cfm?pg=home&video=none

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 8 Mehefin 2012

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM5003

1. Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu pwynt 1.

2. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cefnogi datblygu ‘metro’r Cymoedd’ ar gyfer rheilffyrdd y Cymoedd a fydd yn helpu i adfywio cymunedau yng nghymoedd de Cymru.

3. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod bod ‘Cynllun Gwyrdd i’r Cymoedd’ yn cydnabod sefyllfa economaidd wael Cymoedd De Cymru.

4. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu nad yw ‘Cynllun Gwyrdd i’r Cymoedd’ yn mynd ati’n gynhwysfawr i archwilio sut y mae datblygu’r sector preifat yng Nghymoedd De Cymru.

NDM5007

Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ar ôl ‘brosiectau blaenorol’ rhoi ‘ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad o’r fath'