Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 13 Gorffennaf 2010
Cynigion a gyflwynwyd ar 21 Mehefin 2010
NDM4502
Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 27.21, yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2010 -11, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb ac a e-bostiwyd at Aelodau’r Cynulliad ddydd Llun 21 Mehefin 2010.
Troednodyn:
Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 27, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:
(i) y datganiad ysgrifenedig sy’n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;
(ii)
yr adnoddau y cytun
wyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb
floc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;
(iii) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyr
annwyd ar gyfer cyllideb
floc Cymru gan y Trysorlys
a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;
(iv) cysoniad rhwng
amcangyfrif y symiau
sydd i’w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a’r symiau yr awdurdodir eu talu o’r Gronfa yn y cynnig; a
(v) cysoniad rhwng yr adnoddau i’w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o’r Ddeddf a’r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c).
Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:- nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.
Cynigion a gyflwynwyd ar 06 Gorffennaf 2010
NDM4525
Edwina Hart (Gŵyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 23.24:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Y Mesur Arfaethedig Iechyd Meddwl (Cymru).
Gosodwyd Y Mesur Arfaethedig Iechyd Meddwl (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 22 Mawrth 2010;
Gosodwyd adroddiad Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 3 ar y Mesur Arfaethedig Iechyd Meddwl (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 2 Gorffennaf 2010.
NDM4526
Edwina Hart (Gŵyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Mesur Arfaethedig Iechyd Meddwl (Cymru) , yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 23.80(ii)(b) a (c), sy’n codi o ganlyniad I’r Mesur.
NDM4529
Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn mynegi’i ddiolchgarwch am gyfraniad Gillian Body yn ystod ei thymor yn swydd Archwilydd Cyffredinol Cymru;
2. Wrth weithredu o dan baragraff 1(1) o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, ac ar ôl ymgynghori â chynrychiolwyr cyrff llywodraeth leol yng Nghymru yn unol â pharagraff 1(2), yn enwebu Huw Vaughan Thomas i’w benodi i swydd Archwilydd Cyffredinol Cymru gan Ei Mawrhydi am dymor o wyth mlynedd i ddechrau’n syth ar ôl i Archwilydd Cyffredinol Cymru cyfredol roi’r gorau i fod yn ddeiliad y swydd.