13/10/2009 - Cynigion a Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 13 Hydref 2009

Cynigion a gyflwynwyd ar 06 Hydref 2009

NDM4294 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn croesawu'r adroddiad cyntaf gan y Comisiwn Annibynnol ar Ariannu a Chyllid i Gymru;

2. Yn cefnogi'r argymhellion a wnaed gan y Comisiwn; a

3. Yn cefnogi bwriad Llywodraeth Cynulliad Cymru i drafod yr argymhellion ymhellach â Llywodraeth y DU.

Gellir gweld yr adroddiad cyntaf gan y Comisiwn Annibynnol ar Ariannu a Chyllid i Gymru ar y ddolen ganlynol:

http://wales.gov.uk/icffw/home/report/firstreport/?skip=1&lang=cy

NDM4295 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn cefnogi buddsoddiad parhaol Llywodraeth Cynulliad Cymru i  foderneiddio llyfrgelloedd cyhoeddus, mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, er mwyn diwallu anghenion addysgol, diwylliannol a hamdden y cyhoedd a sicrhau bod y nifer uchaf bosibl o bobl yn elwa o’r adnoddau gwell sy’n cael eu darparu.

NDM4296 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn roesawu ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru wrth fynd i'r afael â'r dirwasgiad ac yn cefnogi bwriad y llywodraeth i gyflwyno cynigion pellach gan ffocysu a blaenoriaethu cymorth busnes ar gyfer yr economi yn sgil y dirwasgiad.

Gwelliannau a Gyflwynwyd ar 8 Hydref 2009

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM4294

1. Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

“Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru, gyda Llywodraeth y DU, i fynd yn egnïol ar drywydd yr argymhellion i sefydlu fformiwla ar sail anghenion er mwyn sicrhau cyllid tecach i Gymru a ledled y Deyrnas Unedig.”

2. Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

“Yn annog Llywodraeth Cynulliad Cymru i bennu amserlen ar gyfer gweithredu’r argymhellion.”

NDM4295

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

“Yn cydnabod bod gan lyfrgelloedd cyhoeddus ran allweddol i’w chwarae o ran ehangu mynediad i dechnolegau newydd ar draws bob grwp oedran.”

NDM4296

1. Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)

Yn lle “croesawu” rhoi “nodi”.

2. Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)

Yn lle “cefnogi” rhoi “cydnabod”.

3. Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

“Yn nodi â phryder rybudd yr IMF ei bod yn ymddangos mai’r DU sydd fwyaf agored i gyfyngiadau credyd ac y gallai hyn effeithio’n ddifrifol ar dwf economaidd Cymru ar ôl y dirwasgiad.”

4. Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

“Yn nodi bod y Gyllideb Cyfalaf sydd ar gael i’r Economi a Thrafnidiaeth ar gyfer 2010-11, fel y nodwyd yng nghyllideb ddrafft 2010/11 wedi disgyn £37.5 miliwn o’i gymharu â chynlluniau dangosol a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2008, a fydd yn niweidiol i adferiad economi Cymru.”

5. Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

“Yn credu y dylid ymestyn Cymorth Hyblyg i Fusnes i gynnig cymorth am hyd at 18 mis, yn rhannol er mwyn mynd i’r afael â chanlyniadau’r dirwasgiad.”

6. Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

“Yn galw am symleiddio cymorth ariannol i fusnesau yng Nghymru drwy drosglwyddo rhai grantiau busnes i gynllun rhyddhad ardrethi gwell ar gyfer busnesau bach er mwyn rhoi ffocws gwell i gymorth busnes ar gyfer economi ôl-ddirwasgiad.”

7. Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

“Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu ar Gyfraniad Economaidd Addysg Uwch yng Nghymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Hydref, ac yn nodi y bydd sgiliau yn rhan allweddol o unrhyw economi ôl-ddirwasgiad ac yn gresynu wrth y 5% o doriadau a roddir ar addysg uwch ac addysg bellach yng nghyllideb ddrafft 2010/11.”

8. Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

“Yn nodi â gofid y rhoddir blaenoriaeth is i Adran yr Economi a Thrafnidiaeth a’r Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau yng nghyllideb ddrafft 2010/11 ac yn credu y bydd hyn yn ei gwneud yn anos symud i economi ôl-ddirwasgiad.”

9. Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

“Yn credu bod busnesau bach a chanolig eu maint yn rhan hollbwysig o economi Cymru, bod eu helw yn fwy tebygol o aros yn y gymuned, ac y dylai llawer o’r arian a fuddsoddir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru flaenoriaethu cymorth busnes ar gyfer busnesau bach a chanolig eu maint.”

Sylwer: gosodwyd Cynigion y Gyllideb Ddrafft 2010/11 gerbron y Cynulliad ar 5 Hydref 2009, ac maent ar gael drwy ddilyn y ddolen ganlynol:

http://www.assemblywales.org/bus-home/bus-guide-docs-pub/bus-business-documents/bus-business-documents-doc-laid/gen-ld7726-e.pdf?langoption=3&ttl=GEN-LD7726%20-%20Draft%20Budget%20Proposals%202010-11