Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 13 Tachwedd 2007
Cynigion a gyflwynwyd ar 06 Tachwedd 2007
NDM3710
Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu’r Trydydd Dimensiwn - Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Cynllun y Sector Gwirfoddol;
2. Yn cydnabod bwriad y Gweinidog i weithio gyda’r Sector Gwirfoddol wrth gyflawni’r Cynllun Gweithredu Strategol;
3. Yn nodi’r camau a gymerwyd i gyflawni Cynllun y Sector Gwirfoddol yn y cyfnod hyd at 31 Mawrth 2007 ac yn cytuno i gyhoeddi’r Adroddiad Blynyddol.
Cafodd copïau o "Trydydd Dimensiwn - Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Cynllun y Sector Gwirfoddol” ac yr "
Adroddiad Blynyddol” eu hanfon drwy e-bost at Aelodau’r Cynulliad ar 6 Tachwedd 2007.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 08 Tachwedd 2007
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM3710
William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:
Yn nodi â phryder y bydd Cynigion Cyllideb Ddrafft 2008-09, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Tachwedd 2007, yn cynyddu’r galw am nifer o wasanaethau’r sector gwirfoddol o ganlyniad i’r setliad cyllideb gwael ar gyfer awdurdodau lleol.